Yn Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd ers pum mlynedd, mae Arfon Jones wedi bod yn llafar ei farn ar Twitter wrth iddo ddadlau yn frwd o blaid cyfreithloni cyffuriau.
Yn dilyn gyrfa hir yn blismon, ac yna degawd o fod yn gynghorydd sir Plaid Cymru yn Wrecsam, cafodd ei ethol i rôl y Comisiynydd yn 2016.
Yn ystod ei amser yn y brif rôl, mae wedi ennyn cryn sylw am ei ddaliadau blaengar, o’i safiad tros hawliau iaith carcharorion Cymraeg, i’w deimladau am gyffuriau.
A bellach, mae wedi penderfynu camu o’r neilltu, a bydd yn rhoi’r gorau iddi yn swyddogol fis nesaf.
Bydd etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal ledled Cymru a Lloegr fis Mai eleni, ar ôl cael eu gohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig.
Mae Arfon Jones yn dweud ei fod yn ymddeol yn bennaf am ei fod bellach yn 66 oed, ac nid yw am ymrwymo i dymor hir arall… er hynny, roedd yn teimlo’n wahanol iawn am y mater y llynedd.
“Roeddwn i’n benderfynol, blwyddyn yn ôl, fy mod i’n mynd i ailsefyll,” meddai. “Ond … mae’r flwyddyn yma rydan ni wedi ei chael [wedi newid pethau].
“[Yn sgil y pandemig] rydach chi jest yn gorfod meddwl, a reset-io’ch bywyd, a beth rydach chi eisiau gwneud.
“Efallai fyddwn ni ddim yma wythnos nesa’. Mae eisiau gwneud y mwyaf o amser hamdden. A dw i’n meddwl bo fi wedi cyrraedd yr oed sbesial yma.”
Bydd llawer yn adnabod Arfon Jones yn bennaf am ei agwedd at gyffuriau.
Mae wedi canu clodydd ‘madarch hud’ a’u potensial i drin anhwylderau iechyd meddwl, ac yn ddiweddar mae wedi dadlau y dylid rhoi canabis i garcharorion er mwyn lleihau trais.
Cwestiwn sy’n codi o hyn i gyd yw: a oedd Arfon Jones yn dipyn o hipi yn ei ieuenctid?
“Na, na. Doeddwn i ddim,” meddai. “A gwneud y pwynt ydw i – dydw i ddim yn cymryd cyffuriau. Alcohol ydy’r cyffur o ddewis.
“Ond ar y llaw arall, mae alcohol yn gyfreithlon, felly pam ddylsa cyffuriau eraill [fod yn anghyfreithlon] os ydy pobol eisiau eu cymryd nhw yn hamddenol: fel canabis, fel powder cocaine.
“Mae pobol yn eu cymryd nhw rŵan. Dos di i unrhyw far o gwmpas San Steffan yn Llundain, ar ôl gwaith, mae yna ddigon o bobol fan yno yn spaced out ar gocên.
“Ond os wyt ti’n byw mewn ardal ddifreintiedig, neu lle mae yna lot o bobol dduon, maen nhw’n cael eu trin dipyn yn wahanol i’r ffordd mae’r yuppies yn cael eu trin yng nghanol Llundain.”
Mae ganddo ddaliadau cryfion am gydraddoldeb cymdeithasol, ac mae’n egluro bod ei farn ar gyffuriau wedi ei gwreiddio yn y daliadau hynny.
Agwedd amlwg arall ar bersonoliaeth y Comisiynydd yw ei chwilfrydedd â Twitter.
Mae’n postio negeseuon yn gyson bob dydd, a chymaint yw’r obsesiwn fel y cafodd ei wahardd o gyfarfod Cyngor Sir Wrecsam yn 2012 am drydaru yn ystod y sesiwn.
Tybed a yw’n ystyried ei hun yn dipyn o Twitterholic?
“Os wela’ i rywbeth dw i’n cytuno neu anghytuno efo, dw i’n debyg o ddweud fy marn,” meddai.
“Dw i’n dilyn lot o bethau progressive. Ac wrth gwrs, fel gwleidydd dw i’n trïo cael pobol drosodd i weld pethau o’n ffordd ni o fyw.
“Mae gynnon ni ein gwerthoedd, ac mae gynnon ni ein gweledigaeth. A phwy bynnag ffordd rydan ni’n teimlo ydy’r ffordd orau o gael hynny allan, ffordd yna mae ei gwneud hi.
“Ond siarad mewn i bubble ydy Twitter ynde. Rydan ni gyd yn dilyn yr un un bobol sydd mwy neu lai o’r un farn â ni.
“Felly, ia, dw i’n gwneud tipyn ar Twitter. Ond dw i ddim yn gwybod faint o wahaniaeth mae o’n gwneud.”
Mi ymunodd Arfon Jones â Heddlu Gogledd Cymru yn 1978, ac yntau’n 23 oed.
Tref Tywyn ar arfordir de Gwynedd oedd ei orsaf gyntaf ar ôl cael ei hyfforddi yn blismon, ac wedi hynny bu’n blismon ar bentref Abergynolwyn.
“A bod yn onest, doedd fawr o angen plismon yn Abergynolwyn,” meddai. “Roedd yna ryw bedair trosedd mewn dwy flynedd.”
Bu hefyd yn gweithio yn Rhuthun, Bae Colwyn, a Rhiwabon; ac yn yr 1980au roedd ymhlith yr heddweision rheiny a fu’n plismona terfysgoedd Toxteth yn Lerpwl.
“Mi gawson ni gyfnodau treisiol,” meddai. “Bues i’n plismona’r trais yn Toxteth yn 1981 – heb fawr o [gyfarpar diogelwch].
“Rydach chi’n gweld y gwisgoedd yma sydd gan yr heddlu rŵan. Hetiau fatha NATO – pethau eitha’ militaraidd. Doedd gynnon ni ddim o hynny.
“Caeadau dustbins oedd gynnon ni. A chotiau a helmed – helmed arferol.
“Roeddwn i ar Upper Parliament Street yn Lerpwl yn gwylio’r goleuadau traffig yn llosgi, ac yn trïo gweithio allan sut yn union wnaethon nhw roi’r rheina ar dân.”
Arhosodd â Heddlu Gogledd Cymru trwy gydol ei yrfa yn blismon, a diweddodd fyny yn y pen draw yn Arolygydd Gweithredol tros ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint.
Bu iddo ymddeol yn 2008, ac o’r flwyddyn honno hyd at 2017 roedd yn gynghorydd sir tros ward Gwersyllt ar Gyngor Sir Wrecsam.
Treuliodd beth amser yn aelod cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant, a safodd yn aflwyddiannus tros sedd Wrecsam yn etholiad cyffredinol 2010.
Does dim plismyn yn ei deulu, ond roedd angerdd gwleidyddol yn amlwg ar yr aelwyd.
“Dw i’n dod o deulu eitha’ gwleidyddol.
“Roedd gwleidyddiaeth yn fy ngwaed i efo ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, cyn i mi ymuno efo’r heddlu. Roeddwn i wastad yn aelod o Blaid Cymru. Roedd dad a mam yr un fath.”
Mae Arfon Jones yn disgrifio’i hun yn “fab fferm o Harlech”. Bu iddo fyw yn y rhan honno o Gymru tan oedd yn 19.
Ar ôl ei gyfnod yn plismona yn Abergynolwyn mi symudodd i Goedpoeth, ac mae wedi byw yn ardal Wrecsam fyth ers hynny.