Ar hyn o bryd mae’r meddyg yn gweithio mewn unedau brys, ac yn bwriadu mynd yn Feddyg Teulu ym mis Awst.

Bu’n fyfyriwr Meddygaeth yng Nghaerdydd, a bellach mae’r ferch 26 oed yn ôl adref ym mhentref Bethel ger Caernarfon, ac yn arweinydd ar raglen FFIT Cymru S4C… 

Pam wnaethoch chi geisio am le ar FFIT Cymru? 

Dw i wedi stryglo efo pwysau am amser hir, ond yn fwy felly efo locdawn, yn rhoi pwysau ymlaen.

Dw i wedi bod yn gwneud couch to five K, a dw i yn gallu rhedeg pump cilomedr rŵan – yn araf iawn.

Ond doedd dim byd roeddwn i’n wneud [i golli pwysau] yn gweithio, a wnes i feddwl: ‘Pam lai, wna i fynd amdani.’

Roeddwn i wedi gweld y canlyniadau mae pobol wedi eu cael ar gyfresi cynt, ac mae pawb wedi gwneud mor dda allan ohono fo…

Ac roeddwn i wedi cael diod bach o win ar y noson wnes i lenwi’r ffurflen gais, a wnaeth hynny helpu!

Sut mae’r teulu wedi ymateb?

Maen nhw yn falch.

Dim ond fi a mam sydd adref ar y funud. Mae gen i frawd a chwaer, ac mae’r ddau ohonyn nhw lawr yn Llundain.

Tydi’r ddau ohonyn nhw ddim wedi cael issues efo pwysau – mae fy mrawd fel styllan.

Ond mae Mam wastad wedi dweud ein bod ni’n dwy yr union yr un siâp, felly mae hi am fod yn gwneud y cynllun [ffitrwydd] efo fi, sydd yn mynd i fod yn neis, efo’r ddwy ohonan ni adref yn cefnogi ein gilydd.

Pa mor anodd yw bwyta’n gall a chithau ar shifftiau hwyr yn A&E?

Pan gychwynnodd covid, roeddwn i’n gweithio yn ysbytai Caerdydd, ac roedd lot o’r bwytai yn gyrru bwyd fewn i ni yn y gwaith.

Felly roedden ni yn bwyta bwyd anhygoel – cyris Michelin star ac ati.

Ac roeddwn i’n bwyta lot yn ganol y locdawn cynta’.

Ac wedyn unwaith wnes i gychwyn yn A&E ym mis Awst, roedd y rhan fwyaf o’r shifftiau yn cychwyn am hanner dydd a gorffen am ddeg y nos, neu dau’r pnawn tan hanner nos.

Doedd yna ddim routine.

A pan ti’n gweithio oriau fel yna, ti’n meddwl: ‘Dw i am gael treat’… lot o siocled yn y breakroom.

A tydio ddim yn helpu bod yna gymaint o ddewis o takeaways yng Nghaerdydd… mae o jesd yn rhy hawdd clicio botwm ar dy ffôn, ac mae gen ti fyrgyr o dy flaen mewn rhyw bum munud.

Felly mae o wedi bod yn dda symud i Fethel! 

Beth fysa eich neges i bobol sydd wedi pesgi yn y pandemig, ac eisiau ysgafnhau?

Mae o’n bwysig i sylweddoli bod angen colli pwysau.

Denial ydy’r ffactor mawr yn stopio pobol rhag sylweddoli bod angen newid.

Yn gyntaf, rhaid bod eisiau newid. Dyna’r cam cyntaf. 

Sut mae pobol wedi ymateb i’ch gweld chi ar y teledu?

Dw i wedi cael hen ffrindiau nad ydw i wedi eu gweld ers oesoedd, i gyd wedi tecstio fi yn dweud: ‘Oh my gosh! Dw i’n lyfio FFIT Cymru a dw i wedi gweld chdi arna fo!’

Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel.

Beth yw eich atgof cynta’?

Pan oeddwn i ryw dair, pedair oed, a Mam yn disgwyl fy mrawd bach. A wnaeth hi ddropio fi off yn yr ysgol, ac roeddwn i’n arfer rhoi sws iddi hi, a sws i’r bymp.

Beth yw eich ofn mwya’?

Mae fy mrawd yn dweud bo fi ofn golchi llestri, a fy chwaer yn dweud bo fi ofn bîns oer mewn tun!

Mae pobol sy’n bwyta bîns yn syth allan o’r tun yn disgusting

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i’n licio mynd am dro, a dipyn bach o ioga a rhedeg. Ond dw i ddim yn gwneud dim byd yn ddigon cyson nac yn ddigon aml…

Beth sy’n eich gwylltio?

Y Patriarchaeth.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Anne Boleyn, ail wraig Harri’r Wythfed. Mae hi wedi ei chamddeall gan haneswyr, a fyswn i’n licio cael sgwrs efo hi. Mae ei stori hi mor trajic. Wnaeth Harri’r Wythfed anghytuno efo hi a’i galw hi’n wrach, a’i dienyddio hi – sydd ddim yn iawn!

Hefyd, fyswn i’n gwadd Cranogwen y bardd, a Michelle Obama a Bjork.

A bwyta paella a chael sesh sangria.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Fy nghariad annwyl, Tom!

Wnaethon ni gyfarfod ar [dating ap] Bumble, a chlicio ar y dêt cyntaf.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Mor gymaint… a dw i’n gwybod fod o’n anghywir, yn ramadegol, ond dw i’n ddeud o mor gymaint!

Beth yw eich hoff wisg ffansi?

Wnes i wisgo fyny fel Daenerys Targaryen [y frenhines yn gyfres Game of Thrones] i fynd i comic-con yng Nghaerdydd unwaith, ac roeddwn i reit falch ohona fi fy hun.

Wnes i wneud y wisg fy hun adref, a gosod wig mawr blond ar fy mhen.

Roedd o’n embaras cerdded drwy Gaerdydd, ond unwaith wnes i gyrraedd adeilad y comic-con, roeddwn i’n teimlo fel… wel, Cwîn!

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Pan oeddwn i yn y brifysgol, ac wedi meddwi gormod, roeddwn i wastad yn disgyn i gysgu yn y toiledau…

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Parti Eurovision yn 2017 yn coleg. Roedd ganddo ni fflagiau’r gwledydd o gwmpas, a chonffeti, sgrin fawr. Pawb wedi gwisgo fyny yn taci. Briliant!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Os ydw i wedi bod yn gweithio, dw i fel arfer yn rhedeg trwy bob un claf dw i wedi’i weld y diwrnod yna, a meddwl: ‘Oh gosh! Fyswn i wedi gallu gwneud hynna yn well’.

Mae hynna wastad yn broblem pan rydw i wedi bod yn gweithio shiffts hir.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Indian Pale Ale.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Wnes i ddarllen Girl, Woman, Other gan Bernardine Evaristo yn ddiweddar, a wnaeth o sdicio efo fi. Dw i wedi bod yn dweud wrth bawb: ‘Ti angen darllen hwnna.’

Pa raglenni fyddwch chi’n fwynhau eu gwylio?

Rydan ni’n ail-wylio The Sopranos ar y funud. Dw i’n binjo fo, ac wedyn llais Tony Soprano ydy’r llais pen am dipyn ar ôl i chi wylio gormod!

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Mae yna lot o bobol, pryd dw i’n cyfarfod nhw, mae hyn bob tro yn shocio nhw… mae gen i black belt mewn karate. Wnes i ennill hwnna pryd oeddwn i’n ddeuddeg.

Yn hogan fach, roedd fy chwaer fawr yn gwneud ballet, ac fe wnes i ddweud: ‘Na! Dw i ddim eisiau gwneud ballet, dw i eisiau gwneud karate’.

FFIT Cymru ar S4C nos Fawrth am naw.