Mi wnes i dorri’r gwair yn fy ngardd yr wythnos yma. Dydw i ddim yn hoffi torri’r gwair oherwydd mae’n codi cwestiynau existentialist y bydde hi’n well gen i beidio eu hateb. Mae’n cynrychioli’r frwydr elfennol rhwng dyn a natur. Rydych chi’n torri’r gwair ac mae yn tyfu yn ei ôl. Rydych chi’n torri’r lawnt eto ac mae yn tyfu yn ôl. Mae hyn yn mynd ymlaen am flynyddoedd tan ddiwedd y gêm pan mae natur bob tro yn ennill gan sgorio yn y funud olaf.
gan
Phil Stead