Mae’r gwasanaeth podlediadau Cymraeg, Y Pod, wedi lansio Ap newydd sydd yn ei gwneud hi’n “haws darganfod podlediadau Cymraeg”.

Cafodd Y Pod ei sefydlu yn 2018 fel rhestr o bodlediadau, gyda’r Ap yn cael ei ychwanegu at y gwasanaeth.

Nawr, bydd modd dewis o chwe chategori gwahanol wrth bori drwy bodlediadau Cymraeg ar yr Ap.

Mae categori i ddysgwyr hefyd wedi cael ei ychwanegu i’r gwasanaeth.

“Be’ dw i wedi ei ffeindio ers sefydlu Y Pod yw bod mwy a mwy o bobol defnyddio’r gwasanaeth ac yn defnyddio dyfeisiadau symudol,” meddai Aled Jones, Cyfarwyddwr a Datblygydd Y Pod wrth golwg360.

“Felly mae hwn jyst yn rhywbeth sydd yn galluogi pobol i roi gwasanaeth Y Pod ar ei tabledi neu ei ffonau symudol.

“Y bwriad ydi ei gwneud hi’n haws darganfod podlediadau Cymraeg.

“Pan ydach chi’n mynd ar wasanaeth Apple neu Spotify, ond nad ydych chi’n gwybod enw’r podlediad a does dim modd ei ffeindio – does dim opsiwn ‘dangoswch bob dim’ yn Gymraeg.

“Dyna be’ mae Y Pod yn ei wneud, ac mae’n rhoi platfform i bobol sy’n creu podlediadau ac yn sicrhau bod pobol yn gallu ffeindio’r cynnwys maen nhw’n ei greu.”

“Categoreiddio”

“Be dw i hefyd wedi bod wrthi’n wneud ydi categoreiddio’r podlediadau Cymraeg i mewn i chwe chategori,” meddai Aled Jones wedyn.

“Mae yno hefyd gategori i ddysgwyr wedi cael ei ychwanegu gan fod mwy o ddysgwyr yn troi at Y Pod i ffeindio cynnwys ar gyfer dysgwyr.

“Mae podlediad yn declyn grêt ar gyfer dysgu iaith ac maen nhw’n amrywio o ran safon ar Y Pod – rhai ar gyfer dysgwyr safon uwch, rhai ar gyfer pobol sy’n dechrau dysgu o’r newydd.

“Ac mae niferoedd y bobol sy’n defnyddio’r gwasanaeth bob mis yn cynyddu ac yn cynyddu sy’n grêt i weld.”

“Cryn dipyn o waith”

Dywed Aled Jones fod datblygu’r Ap newydd wedi bod yn gryn dipyn o waith.

“Roeddwn i’n teimlo bod modd datblygu’r gwasanaeth ymhellach a ges i gefnogaeth gan Gronfa Clwstwr a Chronfa Arloesol ar gyfer gwneud hynny,” meddai.

“Felly es i ati i ail greu’r gwasanaeth i’w gwneud hi’n haws i bobol ddarganfod podlediadau Cymraeg.

“Mae cryn dipyn o waith wedi mynd mewn i greu bas data o’r holl bodlediadau Cymraeg a chategoreiddio pob dim ac wedyn gwneud gwasanaeth lle mae defnyddwyr yn gallu dod yn ôl i’w ddefnyddio mwy a mwy.

“Rhai pethau eraill rydw i wedi’i wneud ydi ei gwneud hi’n hawdd i bobol symud o gwmpas y gwasanaeth – rydach chi nawr yn gallu gwneud rhestr o ffefrynnau.

“Ac mae chwaraewr nawr sy’n edrych yn debyg i’r chwaraewyr rydach chi’n eu gweld ar wasanaethau fel Spotify, Apple a BBC Sounds.”