Mae Warren Gatland wedi enwi tri Chymro yn ei dîm hyfforddi ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica.

Bydd hyfforddwr cicio presennol Cymru Neil Jenkins, cyn-hyfforddwr blaenwyr Cymru Robin McBryde, a chyn-brif hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy, yn cynorthwyo Gatland ar y daith.

Mae Gregor Townsend, prif hyfforddwr yr Alban, hefyd wedi cael ei enwi ymhlith yr hyfforddwyr.

Roedd Gregor Townsend, ynghyd â Neil Jenkins, yn rhan o dîm buddugol y Llewod a deithiodd i Dde Affrica yn 1997.

Hon fydd pedwaredd taith Neil Jenkins fel hyfforddwr, tra bod Steve Tandy, Gregor Townsend a Robin McBryde yn teithio am y tro cyntaf fel hyfforddwyr.

Roedd amheuon a fyddai’r daith yn cael ei chynnal oherwydd pandemig y coronafeirws.

Ond ym mis Mawrth, cafodd cynllun wrth gefn i chwarae gemau ym Mhrydain ac Iwerddon ei wrthod ac mae’r amserlen wyth gêm wreiddiol yn cael ei hadolygu.

Bydd y gêm brawf gyntaf yn erbyn De Affrica, pencampwyr y byd, yn cael ei chynnal ar Orffennaf 24.

Mae disgwyl i Warren Gatland enwi ei garfan ym mis Mai.

“Rwy’n falch iawn o fod wedi dod â thîm hyfforddi o ansawdd mor uchel at ei gilydd,” meddai Gatland.

“Mae’n grŵp cryf iawn ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth allwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd – rwy’n credu y byddwn ni’n cael y gorau allan o’n gilydd yn Ne Affrica.”

Cyfle i wneud “rhywbeth arbennig”

Wrth drafod cael ei benodi fel hyfforddwr, dywedodd Gregor Townsend fod “cymryd rhan fel chwaraewr ac yn awr fel hyfforddwr yn fraint wirioneddol”.

“Mae’r Springboks yn wrthwynebwyr aruthrol, ond gyda’r dalent sydd yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon, a’r Alban, mae’n gyfle hynod gyffrous i ni wneud rhywbeth arbennig,” meddai.

“Un o heriau mawr taith y Llewod yw dod â chwaraewyr o bedair gwlad wahanol at ei gilydd, mewn cyfnod byr o amser, a chreu bygythiad ymosodol a fydd yn achosi problemau i’r tîm arall.

“Mae’n rhywbeth rydw i’n edrych ymlaen ato.”