Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud bod ganddyn nhw gynlluniau i’w gweithredu os na fydd Ryan Giggs yn gallu arwain Cymru ym mhencampwriaeth yr Ewros yn yr haf.

Robert Page sydd wedi bod yng ngofal y tîm yn absenoldeb Ryan Giggs, sydd ar fechnïaeth tan Fai 1 ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Bu Page, cynorthwyydd Giggs ers mis Awst 2019, yn gyfrifol am gemau mis Tachwedd, gan arwain Cymru i frig eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Roedd e wrth y llyw yn lle Giggs eto ym mis Mawrth, wrth i Gymru ddechrau eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.

Broliodd Gareth Bale, capten tîm pêl-droed Cymru, “galon” y tîm a’r rheolwr dros dro Robert Page yn dilyn y fuddugoliaeth o 1-0 dros y Weriniaeth Tsiec yng Nghaerdydd yng ngêm ragbrofol Cwpan y Byd fis diwethaf.

“Mae cynlluniau ar waith ar gyfer pob posibilrwydd,” meddai Kieron O’Connor, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae’r Ewros ddau fis i ffwrdd, rydyn ni’n gwybod yn union beth rydyn ni’n ei wneud, rydyn ni’n gwybod pryd fyddwn ni’n mynd, sut fyddwn ni’n mynd a phwy fydd yn mynd, mae popeth ar waith.

“Dydyn ni ddim yn gwybod pa reolwr sy’n mynd ond mae gennym gynlluniau A, B, C a D.

“Os yw Ryan yn gallu ymuno â ni, gwych, os nad yw e, mae gennym gynllun ar waith i symud ymlaen.”

Canmol Rob Page

Mae Kieron O’Connor wedi canmol y gwaith mae Page wedi’i wneud.

“Mae wedi gwneud yn dda iawn, rwy’n credu bod y tîm cyfan wedi perfformio. Nid dim ond Rob, ond Albert Stuivenberg a Tony Strudwick hefyd,” meddai.

“Ond Ryan yw’r rheolwr ac rydym yn gobeithio y caiff ei faterion eu datrys ar Fai 1.”

Mae Cymru wedi cynllunio gwersyll hyfforddi tywydd cynnes ym Mhortiwgal cyn eu gêm agoriadol yn erbyn y Swistir yn Baku ar Fehefin 12.