Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi’r Llewod ar gyfer y daith i Dde Affrica, yn mynnu nad yw e wedi dewis ei gyd-hyfforddwyr ar sail eu cenedligrwydd.

Mae’r Cymry Steve Tandy (amddiffyn), Robin McBryde (blaenwyr) a Neil Jenkins (cicio) wedi’u dewis, ynghyd â’r Albanwr Gregor Townsend (ymosod).

Does dim Gwyddelod na Saeson yn rhan o’r tîm hyfforddi.

Roedd disgwyl i Gatland enwi Andy Farrell, Steve Borthwick a Graham Rowntree ond bu’n rhaid i’r tri Sais dynnu’n ôl, a chafodd John Mitchell, Matt Proudfoot na Simon Amor mo’u dewis ar ôl ymgyrch siomedig Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Dydy e ddim yn ymwneud ag ‘ydw i’n teimlo bod angen Sais o hyfforddwr?’, mae’n ymwneud â fi’n dewis pwy dw i’n meddwl fydd yn ffitio orau i fi,” meddai’r hyfforddwr o Seland Newydd.

“Pobol dw i eisiau gweithio gyda nhw ydyn nhw, pobol dw i wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol, a phobol dw i’n credu y byddan nhw’n cydweithio’n dda fel criw.

“Doedd neb wedi codi’r mater yn y gorffennol pan na chawson ni hyfforddwyr Albanaidd. Nid dyna yw e.

“Mae’n fater o geisio dewis pwy rydych chi’n credu yw’r bobol orau i ddod i mewn i’r amgylchfyd, pobol rydych chi’n credu y gallwch chi gydweithio’n dda â nhw, a gobeithio rhoi tîm da at ei gilydd.”

Eithaf swreal

Mae Steve Tandy yn dweud bod cael ei ddewis yn aelod o dîm hyfforddi’r Llewod yn brofiad “eithaf swreal”.

Mae gan y Cymro 41 oed brofiad o weithio gydag Awstralia a’r Alban, ac fe fydd ganddo fe waith i’w wneud er mwyn paratoi amddiffyn y Llewod ar gyfer tîm cryf De Affrica.

“Dw i’n credu mai dydd Mercher yr wythnos ddiwethaf ges i alwad gan Gats,” meddai.

“Roedd yn eithaf swreal ar y dechrau, fe gewch chi eiliadau pan fydd e’n eich dal chi ac wrth ddod i lawr ddoe [i Lundain] a chael trafodaethau cychwynnol a bod yng nghwmni’r hyfforddwyr eraill, dw i wedi dechrau sylweddoli’r peth yn fwy nawr.”

Treuliodd e chwe blynedd yn brif hyfforddwr y Gweilch cyn arwain y Waratahs yn Awstralia ac yna’r Alban fel hyfforddwr amddiffyn.

“Rygbi rhyngwladol yw’r pinacl,” meddai.

“Cyflymdra’r gemau, cyflymdra’r ymarferion, yr heip, y pwysau – mae’n brofiad anhygoel.

“A nawr De Affrica. Ddoe, fe wnes i wylio ffeinal Cwpan y Byd 2019 [pan gurodd De Affrica dîm Lloegr], a gweld cymaint o dîm mawr a chlyfar ydyn nhw.