Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi gosod blodau ger cofeb Hillsborough heno (nos Fawrth, Ebrill 13) wrth iddyn nhw herio Sheffield Wednesday yn y Bencampwriaeth.
Cafodd 96 o gefnogwyr Lerpwl eu lladd yn dilyn trychineb yn y stadiwm ar Ebrill 15, 1989 wrth i Lerpwl herio Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr.
Hon yw’r gêm agosaf at y dyddiad.
Bydd Sheffield Wednesday yn croesawu eu rheolwr Darren Moore yn ôl i ymyl y cae ar ôl iddo fe fod yn hunanynysu yn sgil Covid-19.
A bydd y tîm yn awyddus i daro’n ôl ar ôl colli o 4-1 yn QPR yn eu gêm ddiwethaf.
Mae Joost Van Aken, Fisayo Dele-Bashiru, Chey Dunkley, Moses Odubajo, Massimo Luongo, Cameron Dawson a Dominic Iorfa i gyd allan.
Bydd Abertawe heb Ben Cabango ar ôl iddo fe dorri protocolau Covid-19 y clwb, a dydy hi ddim yn glir eto am ba hyd fydd e allan o’r garfan.
Bydd Wayne Routledge yn cael prawf ffitrwydd ar ôl dechrau gêm gynghrair am y tro cyntaf dros y penwythnos, tra bo disgwyl i’r cefnwyr Connor Roberts a Jake Bidwell ddychwelyd i’r amddiffyn.