Mae tîm pêl-droed Abertawe gam yn nes at sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth ar ôl curo Sheffield Wednesday o 2-0 oddi cartref yn Hillsborough.

Ar ôl rhediad o bedair colled yn olynol, mae’r Elyrch wedi taro’n ôl gan gadw llechen lân yn eu dwy gêm oddi cartref diwethaf.

Daeth y goliau gan Jamal Lowe a Jay Fulton i sicrhau ail fuddugoliaeth erioed yr Elyrch yn y cae yn Sheffield.

Croesiad gan Andre Ayew greodd y gôl gyntaf i Lowe, a gafodd ergyd fach syml i’r rhwyd, cyn i Connor Roberts ddod i’r cae yn eilydd wrth i’r Elyrch newid eu siâp, a chreu’r ail gôl â’i gyfraniad cyntaf i’r ornest gan groesi i ganol y cwrt cosbi i roi peniad syml i Fulton.

Arhosodd Freddie Woodman yn gadarn yn y gôl gyda chefnogaeth Ryan Bennett yng nghanol yr amddiffyn, er mai prin oedd ymosodiadau bygythiol y tîm cartref.

Mae gan yr Elyrch 75 o bwyntiau ar ôl eu hugeinfed llechen lân, ac maen nhw saith pwynt y tu ôl i Watford, a naw pwynt uwchlaw Reading yn y seithfed safle.