Mae Wrecsam wedi dychwelyd i safleoedd ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol ar ôl rhoi cweir o 4-0 i Halifax ar eu tomen eu hunain.

Sgoriodd Jordan Davies hatric a rhwydodd Dior Angus fel eu bod nhw wedi sgorio’u holl goliau o fewn 35 munud.

Roedd Halifax yn seithfed cyn y gêm, driphwynt uwchlaw Wrecsam, oedd wedi colli eu tair gêm flaenorol.

Daeth cyfle gorau Halifax pan darodd Jack Earing y trawst yn yr ail hanner.

Mae Wrecsam yn seithfed a dim ond gwahaniaeth goliau sy’n eu gwahanu nhw a Halifax bellach.