Mae gobeithion tîm pêl-droed Casnewydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran yn fyw o hyd ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Caerliwelydd (Carlisle) yn Rodney Parade.

Rhwydodd yr ymwelwyr ar ôl i Offrande Zanzala droseddu yn erbyn y golwr Nick Townsend ond prin oedd y cyfleoedd o flaen y gôl fel arall.

Cafodd Omari Patrick gyfle arall i’r ymwelwyr, tra bod Nicky Maynard ac Aaron Lewis hefyd wedi cael cyfleoedd i dîm Mike Flynn.

Mae’r Alltudion yn chweched, dri phwynt uwchlaw eu gwrthwynebwr heno sy’n nawfed.