Daeth ail gêm Gemma Grainger yn rheolwr ar dîm pêl-droed merched Cymru i ben yn gyfartal 1-1 yn erbyn Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 23 munud wrth i Pernille Harder wibio tua’r gôl a rhwydo.

Ond roedd Cymru’n gyfartal pan darodd Jess Fishlock foli ar ôl awr.

Roedd arwyddion addawol i’r tîm ar drothwy eu hymgyrch ragbrofol i gyrraedd Cwpan y Byd.

Daeth cyfle cynnar wrth i ymosod Cymru bwyso ar eu gwrthwynebwyr, a bu bron i Gemma Evans benio i’r rhwyd cyn i Lene Christensen arbed yn gelfydd.

Ar ôl cyfres o gyfleoedd i’r ymwelwyr, daeth y gôl anochel yn y pen draw oddi ar wrthymosodiad.

Pwysodd Cymru’n galed am weddill yr hanner cyntaf ac yn ystod chwarter awr cynta’r ail hanner, ac fe gafodd eu hamynedd ei wobrwyo yn y pen draw wrth i Fishlock fanteisio ar groesiad Natasha Harding i unioni’r sgôr.

Bydd Cymru’n darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn yr ymgyrch ragbrofol pan gaiff yr enwau eu tynnu o’r het ar Ebrill 30.