Mae’r chwaraewr snwcer 33 oed o Gastell-nedd, Jamie Jones wedi cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn y Crucible yn Sheffield, yn fuan ar ôl iddo fe ddychwelyd i’r gamp yn dilyn gwaharddiad.

Curodd e Li Hang o 10-5 yn y rownd gymhwyso olaf.

Mae’n dweud ei fod e’n teimlo bod ei yrfa ar ben pan gollodd ei le ar y Gylchdaith ar ddiwedd tymor 2019 am iddo fethu â rhoi gwybod i’r awdurdodau iddo gael cais i drefnu canlyniadau gemau – ond fe gafwyd e’n ddieuog o drefnu canlyniadau.

Bu’n rhaid iddo fe adennill ei gerdyn trwy’r Ysgol Gymhwyso, neu Q School, ac mae’n dweud ei fod e bellach ar ei ennill o orfod gwneud hynny.

“Ro’n i wedi derbyn na fyddwn i fyth yn chwarae eto ond pan oedd y ‘Q School’ yn dod yn nes, wnes i feddwl ‘Dw i ddim yn dda iawn am wneud unrhyw beth arall, felly ’run man i fi fynd amdani’.

“Ro’n i’n meddwl y byddai’n cymryd blwyddyn neu ddwy i fi ond fe gyrhaeddais i rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Agored yr Alban a wnes i’n iawn ym Mhencampwriaethau’r Deyrnas Unedig, a nawr dw i wedi cyrraedd y Crucible.

“Ar ddechrau’r flwyddyn, byddwn i wedi bodloni ar ennill cwpwl o bunnoedd a chael codi ar fy nhraed eto.

“O ddechrau ar y gwaelod eto, roedd y ffordd yn ôl yn ymddangos yn un hir, ond fe gymerais i un cam ar y tro.

“Mae fy agwedd dipyn yn fwy hamddenol a dw i’n chwarae â rhyddid, sy’n rhywbeth dw i wedi bod yn trio’i wneud ers 15 mlynedd.

“Dw i’n teimlo y galla i herio unrhyw un sydd allan yna.”