Mae Dai Young wedi llofnodi cytundeb hirdymor i gael aros yn Gyfarwyddwr Rygbi’r Gleision.

Cafodd ei benodi dros dro ym mis Ionawr, gan ddychwelyd ar ôl cyfnod blaenorol o naw mlynedd wrth y llyw, ac yntau wedi ymddeol o chwarae yn 2002.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, enillodd y rhanbarth Gwpan EDF yn 2009 a Chwpan Her Amlin yn 2010.

Treuliodd e naw mlynedd wedyn gyda’r Picwns (Wasps).

Fe ddychwelodd i’r brifddinas yn dilyn ymadawiad John Mulvihill ar ddechrau’r flwyddyn, wrth i’r Gleision ennill pedair allan o saith gêm o dan ei arweiniad.

‘Edrych ymlaen at y dyfodol’

“Dw i’n falch iawn o gael cytundeb hirdymor cyn y tymor nesaf a dw i’n edrych ymlaen at y dyfodol yma ar Barc yr Arfau,” meddai Dai Young.

“Mae Caerdydd yn amlwg yn dîm da a dw i’n angerddol amdanyn nhw ac wedi bod yn gysylltiedig â nhw ers amser hir, ond mae’r cyfnod dros dro yma wedi galluogi’r ddwy ochr i edrych am yn hir ar ei gilydd ac wedi tawelu fy meddwl i mai dyma’r penderfyniad cywir ac y galla i greu argraff yma fel dw i eisiau gwneud.

“Dw i’n hyderus fod y garfan hon, sydd â chymaint o botensial, eisiau gwella ac yn barod i wneud y gwaith angenrheidiol, tra bod y cyfleusterau sydd eu hangen er mwyn cefnogi ein nodau ac amcanion wedi cael eu cytuno ac yn dod yn eu blaenau.

“Mae yna ffordd bell i fynd o hyd, fel y gwelson ni yn erbyn Gwyddelod Llundain, ond dw i’n hyderus fod llawer o welliant a datblygiad i ddod.

“Maen nhw’n griw sy’n gweithio’n galed ac sy’n onest, gyda llawer o ddoniau ifanc a chyffrous.

“Mae’r bwrdd hefyd wedi creu argraff arna i, ac maen nhw wedi bod yn synhwyrol iawn ac yn deall yr hyn sydd ei angen er mwyn symud ymlaen.

“Rydyn ni eisiau cystadlu ar ddiwedd y tymor ym mhob cystadleuaeth rydyn ni’n chwarae ynddyn nhw a thra bydd hynny’n cymryd amser, dw i’n hyderus bellach fod gyda ni gynllun hirdymor clir yn ei le.

“Dechrau’r daith yn unig yw hyn nd mae’n brosiect dw i wedi cyffroi yn ei gylch, a dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r staff rygbi, Richard Holland [y prif weithredwr] a’i bwrdd gweithredol i gyflawni’r nodau hyn.”

‘Dim amheuaeth’

Yn dilyn proses a gafodd ei harwain gan Nigel Walker, cyd-chwaraewr Dai Young yng Nghaerdydd, mae Richard Holland yn dweud ei fod yntau hefyd yn edrych ymlaen at y dyfodol.

“Roedden ni wrth ein boddau o gael dod â Dai i mewn dros dro ym mis Ionawr a’n bwriad ni erioed oedd ei wneud e’n drefniant hirdymor,” meddai.

“Roedden ni’n ofalus rhag i ni ruthro’r penderfyniad ym mis Ionawr ond nawr, ar ôl cynnal arolwg trylwyr a gweld drosof fy hunan yr effaith mae Dai wedii chael, does gyda fi ddim amheuaeth mai fe yw’r ffit delfrydol.

“Mae e’n amlwg yn gyfarwyddwr rygbi profiadol dros ben ond mae e hefyd yn angerddol iawn am Gleision Caerdydd a’r rhanbarth rydyn ni’n ei gynrychioli, ac mae’n deall yn llawn y tirlun rygbi yma ac mae e’n ddyn da.

“Mewn ychydig fisoedd, mae e wedi cael effaith sylweddol ar ein hamgylchfyd ar y cae ac oddi arno, ac rydym oll wedi’n cyffroi am yr effaith y bydd e’n ei chael dros y blynyddoedd i ddod.

“Mae yna gryn welliant i ddod gan y criw yma a thra ein bod ni’n ymwybodol fod yna lefydd y gallwn ni eu gwella o hyd, dw i’n hyderus mai Dai yw’r person cywir i arwain ein rhaglen rygbi.”