Mae Michael O’Neill, rheolwr tîm pêl-droed Stoke, yn dweud bod Joe Allen yn debygol o fod yn holliach ar gyfer yr Ewros, er nad yw’n disgwyl i’r Cymro chwarae i’r clwb eto y tymor hwn.

Mae tymor y Bencampwriaeth yn dod i ben ar Fai 8, tra bod ymgyrch Ewros Cymru’n dechrau yn erbyn y Swistir yn Baku ar Fehefin 12.

Dydi Allen ddim wedi chwarae ers dioddef anaf wrth i Gymru golli o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg fis diwethaf.

Dyna oedd y tro cyntaf iddo chwarae dros ei wlad ers 2019.

“Does dim pwynt i ni ei ruthro’n ôl i chwarae,” meddai Michael O’Neill.

“Mae Joe wastad eisiau chwarae – mae’n rhaid i chi geisio cyfyngu ar Joe ychydig.

“Mae’r anaf yn fwy difrifol nag yr oeddem yn ei feddwl gyntaf pan ddaeth i ffwrdd yn y gêm dros Gymru, ond dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw risg na fydd yn cymryd rhan yn yr Ewros.

“Rwy’n credu ei bod yn annhebygol y byddwn yn ei weld yn chwarae i ni eto’r tymor hwn.”