Mae Will Vaulks, chwaraewr canol cae Cymru a Chaerdydd, wedi cael ei enwi’n Chwaraewr PFA y Bencampwriaeth yn y Gymuned 2021.

Mae Vaulks wedi neilltuo llawer iawn o’i amser sbâr ar gyfer prosiectau cymunedol drwy gydol ei yrfa ac mae ganddo fe rôl llysgennad bellach gyda Sefydliad Clwb Pêl-droed Caerdydd.

Drwy gydol y cyfnodau clo, roedd e’n bresennol mewn deg sesiwn ar-lein ac mae wedi dod yn wyneb cyfarwydd i staff ac aelodau’r Sefydliad.

Cymerodd e ran hefyd yng Ngŵyl yr Adar Gleision ar gyfer Ysgolion Cartref fis Mehefin y llynedd, gan greu fideos o sialensau pêl-droed y gallai plant gymryd rhan ynddyn nhw fel rhan o Ysgolion Pêl-droed y Sefydliad.

“Cyfrifoldeb i’r clwb a’r ddinas”

“Mae’n braf iawn cael cydnabyddiaeth,” meddai wrth siarad â Sky Sports News ar ôl cael gwybod am y wobr.

“Mae’r pethau hyn ychydig yn anodd serch hynny, gan nad ydych yn ei wneud am y rhesymau hyn.

“Rydych chi’n ei wneud oherwydd eich bod chi eisiau, ac rydych chi eisiau helpu pobol a gwneud gwahaniaeth.

“Mae’n rhywbeth rwy’ wedi gwneud ymdrech i ymwneud ag e drwy gydol fy ngyrfa hyd yma.

“Fel chwaraewyr, mae gennym gyfrifoldeb i’r clwb a’r ddinas yr ydym yn chwarae pêl-droed ynddi oherwydd ein bod ni mewn sefyllfa ffodus.”

“Heb ei ail”

Wrth gyhoeddi mai Will Vaulks yw Chwaraewr PFA Y Bencampwriaeth yn y Gymuned 2021, dywedodd y Gynghrair Bêl-droed (EFL) fod “ymrwymiad Vaulks i weithgareddau cymunedol heb ei ail o ran gwirfoddoli ac angerdd”.

“Mae Vaulks wedi neilltuo amser personol sylweddol i bobol yn y gymuned ac mae’n ymgyrchydd cryf dros fanteision gwirfoddoli am resymau elusennol ac iechyd meddwl,” meddai llefarydd.