Bydd tymor pêl-droed domestig 2021-22 yng Nghymru yn dechrau’n gynt na’r arfer eleni, ym mis Gorffennaf.
Mae Bwrdd Cynghreiriau Cenedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau’r dyddiadau ar gyfer y cystadlaethau.
Bydd gemau rownd gyntaf Cwpan Nathaniel MG yn cael eu cynnal ar 24 Gorffennaf gyda’r ail haen o gynghreiriau Gogledd a De Cymru yn dechrau wythnos yn ddiweddarach.
Bydd trydedd haen y Cynghreiriau Ardal, sydd wedi’u hailstrwythuro, a Chynghrair Ail Dimau Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dechrau ar 31 Gorffennaf.
Mae penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddechrau’n gynharach wedi’i wneud yn dilyn canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi yng Nghynllun Rheoli Coronafeirws Llywodraeth Cymru.
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru am fanteisio ar y cyfleoedd i chwarae lle’n bosibl yn nhymor 2021-22, gan ystyried y bygythiad posibl o darfu pellach ar gystadlaethau oherwydd pandemig y coronafeirws.
Mae’r Cymru Premier ymhlith y cystadlaethau sydd ddim yn dechrau’n gynharach, tra bod disgwyl i Haen Un y Merched ddechrau ar benwythnos cyntaf mis Medi.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn credu y bydd digon o amser i gwblhau’r cystadlaethau hyn hyd yn oed os bydd ymyriadau pellach i’r calendr pêl-droed.