Yn y Bencampwriaeth, brwydrodd Abertawe yn ôl o 2-0 yn eu herbyn i hawlio pwynt yn erbyn Wycombe Wanderers yn Stadiwm Liberty.

Sgoriodd Jamal Lowe o’r smotyn a Liam Cullen gôl hwyr i’r Elyrch i ddod â’r sgôr yn gyfartal.

Roedd Admiral Muskwe a Garath McCleary wedi rhoi’r ymwelwyr – sydd ar waelod y tabl – ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Norwich yn sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Abertawe yn parhau yn y trydydd safle, gyda phedair gêm yn weddill.

Ail-gyfle

Yn yr Ail Adran, mae Caergrawnt nawr ar y brig wedi eu buddugoliaeth yn erbyn Casnewydd ar Rodney Parade.

Sgoriodd Declan Drysdale unig gôl y gêm, 11 munud o’r diwedd – ei gôl gyntaf ers cyrraedd ar fenthyg o Coventry ym mis Ionawr.

Mae Caergrawnt bellach ddau bwynt ar y blaen i Cheltenham gyda phedair gêm ar ôl.

Mae Casnewydd yn aros yn y safleoedd ail gyfle, ond wedi disgyn i’r seithfed safle.

Ac yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr, sgoriodd Wrecsam bedair gôl heb ateb wrth iddyn nhw guro Woking oddi cartref 0-4.

Y sgorwyr i Wrecsam yn Stadiwm Laithwaite oedd Luke Young gyda chic o’r smotyn, Reece Hall-Johnson, Gold Omotayo a Jordan Davies.

Mae’r tri phwynt yn golygu fod Wrecsam nawr yn codi i’r pumed safle.

Hefyd, prin yw gobeithion Caerdydd o orffen yn y chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth eleni – ar ôl gêm gyfartal yn Reading nos Wener.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn wythfed yn y tabl, saith pwynt y tu ôl i Reading sy’n seithfed.

Roedd Caerdydd yn chwarae oddi cartref ac fe gafon nhw gic o’r smotyn ar ôl 85 o funudau.

Torri calonnau

Er i Kieffer Moore sgorio, bu’n rhaid chwarae pum munud ychwanegol oherwydd anafiadau a dyna pryd gwelodd Reading eu cyfle wrth i Yakou Meite benio i’r rhwyd a thorri calonnau’r Adar Gleision.

Roedd tîm y brifddinas wedi cael sawl cyfle i sgorio yn ystod y gêm, ond roedden nhw i gyd yn aflwyddiannus.

Mae’r canlyniad yn ergyd enfawr i obeithion Caerdydd nawr o gael dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.