Prin yw gobeithion Caerdydd o orffen yn y chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth eleni – ar ôl gêm gyfartal yn Reading.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn wythfed yn y tabl, saith pwynt y tu ôl i Reading sy’n seithfed.

Roedd Caerdydd yn chwarae oddi cartref ac fe gafon nhw gic o’r smotyn ar ôl 85 o funudau.

Torri calonnau

Er i Kieffer Moore sgorio, bu’n rhaid chwarae pum munud ychwanegol oherwydd anafiadau a dyna pryd gwelodd Reading eu cyfle wrth i Yakou Meite benio i’r rhwyd a thorri calonnau’r Adar Gleision.

Roedd tîm y brifddinas wedi cael sawl cyfle i sgorio yn ystod y gêm, ond roedden nhw i gyd yn aflwyddiannus.

Mae’r canlyniad yn ergyd enfawr i obeithion Caerdydd nawr o gael dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.