Cafodd “teyrngarwch diwyro” y Tywysog Philip i’r Frenhines Elizabeth, ei wasanaeth i’r Deyrnas Gyfunol a’i “ddewrder”, eu cofio yn ei angladd heddiw.
Roedd cysylltiad y Tywysog Philip â’r Llynges Frenhinol a’i gariad at y môr yn ganolbwynt i’r seremoni yng Nghastell Windsor.
Roedd rhagor na 730 o aelodau o’r lluoedd arfog yn cymryd rhan yn y digwyddiad, ond bu’n rhaid cyfyngu nifer y galarwyr yng Nghapel San Siôr i 30 oherwydd rheolau Covid.
‘Land Rover’
Dechreuodd y gwasanaeth ei hun ar ôl munud o dawelwch am 3 o’r gloch.
Bu farw’r Tywysog Philip yng Nghastell Windsor ddydd Gwener, Ebrill 9 yn 99 oed.
Cafodd ei arch ei gosod ar Land Rover wedi’i addasu yn arbennig – ac a ddyluniwyd ganddo ef ac eraill -cyn cael ei chario mewn gorymdaith byr i Gapel San Siôr.
Mae’r angladd yn cael ei darlledu ar S4C (o 2:30yp).