Mae llu o deyrngedau wedi cael eu rhoi i gyn-bennaeth cwmni ceir Ford a fu farw ar ôl damwain gyda thractor yng Ngwynedd.

Roedd Yr Athro Richard Parry-Jones CBE, yn 69 oed.

Roedd yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad cynnyrch y cwmni ar draws y byd gyda dylunio, ymchwil a thechnoleg cerbydau.

Diolch iddo fo, y cafodd y brand adfywiad yn y 1990au, gyda modelau fel y Mondeo, Fiesta a Focus.

 

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad ar dir preifat yn ardal Y Bermo toc cyn 10yb ddoe (dydd Gwener).

Nid yw’r llu wedi rhoi mwy o fanylion am y digwyddiad hyd yma.

‘Meistrolgar’

Dywedodd cadeirydd y cwmni, Bill Ford mewn datganiad ar Twitter nos Wener: “Roedd Richard Parry-Jones yn dalent prin, a adawodd farc parhaol ar Ford a’r diwydiant.

“Fel peiriannydd, roedd yn feistrolgar gydag ymdeimlad annaearol am greu ceir oedd yn ddeinamig ac yn hwyl eithriadol i’w gyrru.

“Ysbrydolodd ei angerdd am geir a’i gariad at foduro lu o beirianwyr a selogion yn Ewrop ac ar draws y byd.”

 

 

Dywedodd cyn cyd-yrrwr Cymru ym Mhencampwriaeth Ralïo’r Byd, Nicky Grist ar Twitter: “Sioc lwyr gyda’r newyddion trist bod Richard Parry-Jones wedi cael ei ladd y bore ma’ mewn digwyddiad ar ei dractor.

“Cystadlodd Richard mewn ralïau ffordd a chymal, ond des i’w nabod pan roedd yn gyfarwyddwr y Ford Motor Company. Mae fy meddyliau gyda’i wraig Sarah a’i deulu.”

Yn 2019, cafodd Yr Athro Richard Parry-Jones CBE ei benodi i gadeirio tasglu i gefnogi gweithwyr Ford yn dilyn penderfyniad y cwmni i gau eu ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr.