Yr Athro Richard Parry-Jones fydd yn arwain gweithgor sydd wedi’i sefydlu i helpu gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’n gadeirydd ar Fforwm Modurol Cymru, ac fe fu’n gweithio yn y gorffennol yn Brif Swyddog Technegol ac yn Bennaeth Gweithrediadau Ymchwil a Datblygu Byd-Eang cyn ymddeol yn 2007.
Mae’r cwmni wedi penderfynu cau’r safle yn y dref, gyda 1,700 o swyddi’n cael eu colli.
Yn ymuno ag arweinydd y gweithgor fydd cynrychiolwyr y cwmni, llywodraethau Cymru a Phrydain, swyddogion undebau ac arweinwyr y cyngor sir.
Bydd y gweithgor yn cwrdd am y tro cyntaf yn y dref ar Orffennaf 1, ac yn edrych ar ffyrdd o helpu’r gweithwyr, dyfodol y safle ac effaith y cau ar y gymuned ehangach.
“Rhaid i’r effaith mae cyhoeddiad Ford wedi’i chael ac yn dal i’w chael ar y bobol sy’n byw a gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod ym mlaen ein meddyliau a’n hymdrechion,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.
“Rwy wrth fy modd, felly, fod rhywun o safon a chefndir yr Athro Richard Parry-Jones wedi cytuno i gadeirio’r gweithgor hanfodol hwn.
“Gwelsom pa mor lwyddiannus all y fath weithgorau fod wrth helpu i gyfateb sgiliau â chyfleoedd mewn llefydd eraill yng Nghymru, ac mae’n hanfodol bwysig fod y gweithgor hwn yn enwedig yn ystyried, nid yn unig y cyfraniad sylweddol sydd gan y gweithlu a’r cyfleuster i’w gynnig.”