Mae nifer y bobl fu farw oherwydd coronafeirws wedi pasio tair miliwn.

Mae nifer y bywydau a gollwyd, yn ôl Prifysgol Johns Hopkins yn yr Unol Daleithiau, tua’r un fath â phoblogaeth Kyiv, Wcrain; Caracas, Venezuela neu Lisbon, Portiwgal.

Mae’n rhagor na Chicago (2.7 miliwn) ac yn cyfateb i Philadelphia a Dallas gyda’i gilydd.

Mesurau rheoli

A chredir bod y gwir nifer yn sylweddol uwch.

Er bod yr ymgyrchoedd yn yr UD a Phrydain wedi bod yn llwyddiannus a phobl a busnesau yn dechrau ystyried bywyd ar ôl y pandemig, mae marwolaethau ar gynnydd eto, sef tua 12,000 y dydd ar gyfartaledd, ac mae achosion newydd yn cynnyddu hefyd sef 700,000 y dydd.

“Nid dyma’r sefyllfa rydyn ni eisiau bod mewn 16 mis ar ôl dechrau pandemig, lle rydyn ni wedi profi mesurau rheoli,” meddai Maria Van Kerkhove, un o arweinwyr Sefydliad Iechyd y Byd ar Covid-19.

Ym Mrasil, mae marwolaethau’n cyrraedd tua 3,000 y dydd, sef chwarter y bywydau a gollwyd yn fyd-eang yn yr wythnosau diwethaf.

Mae’r Arlywydd Jair Bolsonaro, sydd wedi cymharu’r feirws i ychydig mwy na ffliw, wedi cael ei feio am achosi marwolaethau heb angen.

Mae’r niferoedd sydd yn marw o Covid-19 yn yr India hefyd yn achosi pryderon yn fyd-eang.