Mae gofodwr o’r Unol Daleithiau a dau gosmonot o Rwsia wedi dychwelyd i’r ddaear ar ôl chwe mis ar fwrdd yr Orsaf Gofod Rhyngwladol.

Mae capsiwl gofod Sotouz – sy’n cludo Kate Rubins, Nasa a Sergey Ryzhikov a Sergey Kud-Sverchkov o Rwsia – wedi glanio ddydd Sadwrn yn Kazakhstan.

Ymgynefino

Dywedodd Dmitry Rogozin, pennaeth asiantaeth gofod Rwsia Roscosmos, fod y tri yn teimlo’n dda ar ôl cael eu tynnu o’r capsiwl a dechrau ymgynefino a’u amgylchedd newydd.

Roedd y tri wedi cyrraedd y labordy ar Hydref 14.

Erbyn hyn mae saith o bobl ar fwrdd yr ISS: Cyrhaeddodd gofodwyr Nasa Mark Vande Hei ac Oleg Novitskiy a Pyotwr Dubrov o Rwsia ar Ebrill 9. Daeth Yr Americanwyr Michael Hopkins, Victor Glover a Shannon Walker, a Soichi Noguchi Siapan, yno fis Tachwedd.ô