Mae miloedd wedi bod yn protestio yng Nghymru a ledled y DU heddiw yn erbyn mesur arfaethedig yr heddlu.
Ac mae llawer o bobl, gan gynnwys Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, Arfon Jones, yn rhybuddio y byddai’r Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn “tanseilio hawliau sifil.”
Mae llawer o brotestiadau blaenorol wedi cael eu cynnal.
Promenâd
Heddiw yn Aberystwyth roedd cannoedd o bobl wedi ymuno mewn gorymdaith swnllyd ond heddychlon ar hyd y promenâd.
Ac yn y brifddinas, yng Nghaerdydd, daeth cannoedd eto i ddangos eu gwrthwynebiad i’r mesur ac yn erbyn hiliaeth.
Daeth dwsinau hefyd i brotestio yn Hwlffordd.
Ac yn Llundain a Manceinion, daeth miloedd o bobl ynghyd yn chwifio baneri ac yn arddangos placardiau.
Y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn “tanseilio hawliau sifil”, yn ôl Arfon Jones
Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd yn rhybuddio y gall “plismona protestiadau achosi difrod tymor hir i’r berthynas rhwng y gymuned a’r heddlu”