Mae’r actor Rob McElhenney wedi dweud wrth bobl am beidio cwyno am drydariad a ysgrifennodd yn yr iaith Gymraeg.

Anfonodd yr actor, sy’n gyd-berchen ar Glwb Pêl-droed Wrecsam gyda seren Hollywood, Ryan Reynolds, neges o gefnogaeth i’r tîm a dywedodd wrth bobl y dylent ddefnyddio Google translate yn hytrach na chwyno os na allant ddeall yr hyn a ddywedodd.

Roedd y neges yn cynnwys emojis o faneri Cymru, UDA, a Chanada, yn ogystal â llun ohono yn rhaglen Apple TV+ Mythic Quest, lle mae’n dal tarian sydd â bathodyn CPD Wrecsam arno.

Dywedodd y trydar: “Gadewch i ni fynd Cochion! Os ydych chi’n cwyno am beidio â deall hyn, defnyddiwch google translate chi cachu diog. Mae’n 2021.”

Mae’r sioe yn dilyn stori stiwdio gêmau fideo sy’n cynhyrchu gêm boblogaidd Mythic Quest, ac mae’n chwarae cymeriad ei chreawdwr Ian Grimm.

Yn y gêm sy’n cynnig y cyfle i bobl chwarae rôl aml-chwaraewr, mae chwaraewyr yn aml yn byw mewn ffuglen wyddonol neu fyd ffantasi.

Mae bathodyn clwb CPD Wrecsam yn ymddangos yn y bennod annibynnol “Mythic Quest: Everlight”, gyda’r cymeriadau yn diweddu mewn “coedwig hudolus”.

Mae hefyd yn cynnwys naratif gan yr actor Cymreig Anthony Hopkins.

Anthony Hopkins

Wrth weithio gyda Hopkins, dywedodd McElhenney wrth Variety: “Dywedodd Craig Mazin (cynhyrchydd a gwestai), ‘O rwy’n adnabod cyfreithiwr Anthony Hopkins, fe wnaf roi galwad iddo.’ Ac o fewn 20 munud rwy’n siarad ag Anthony Hopkins.

“Anfonodd bedwar cynnig imi ac roedd pob un yn berffaith a dyna ddigwyddodd. Yr eironi oedd pan siaradon ni ar y ffôn, dywedais, ‘Pa amser ydi hi draw yna?’ Ond roedd yn Los Angeles. Pan ddywedodd enw’r stryd wrthai, cefais syndod gan mae’n byw ddim ond bloc a hanner oddi wrthyf.”

Dywedodd McElhenney fod llawer o bobl yn meddwl ei fod “yn sioe am gêmau fideo”, ond mae’n dweud mai bwriad y tîm o’r dechrau oedd gwneud “sioe am bobl yn gweithio gyda’i gilydd mewn swyddfa ac roedden nhw yn digwydd gweithio yn y diwydiant gêmau fideo.”

Mae cyfrif twitter swyddogol Mythic Quest hefyd wedi rhannu neges yn yr iaith Gymraeg yn ddiweddar.

Mae’n dweud: “Paratowch ar gyfer brwydr. Ond gwnewch yn siŵr bod AD yn cŵl ag ef.”