“Mae unrhyw un sy’n pleidleisio dros y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd yn pleidleisio dros ganolfan gancr eilradd ac yn dinistrio’r amgylchedd – end of.”

Dyna ddywed Ashley Drake, cyn-ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd ar gyfer y Senedd, wrth siarad â golwg360.

Mae Plaid Cymru bellach wedi enwi Fflur Elin fel eu hymgeisydd newydd i frwydro’r sedd yn ei le.

Camodd y cyhoeddwr llyfrau o’r neilltu yn dilyn ffrae am safle gwasanaethau canser Felindre, ar ôl i’r blaid wneud tro pedol er mwyn cefnogi’r Blaid Lafur, sydd am adeiladu safle newydd ar ddolydd y gogledd yn Yr Eglwys Newydd. 

Roedd Ashley Drake am weld y ganolfan newydd ar safle ysbyty presennol er mwyn sicrhau bod gan gleifion canser fynediad at yr holl driniaethau ac adrannau eraill y byddai eu hangen arnyn nhw wrth dderbyn triniaeth am ganser.

Mae rheolwr ei ymgyrch, Phil Nifield, a’i asiant, Dan Allsobrook, hefyd wedi camu o’r neilltu, gyda llawer mwy yn dweud na fyddan nhw’n cefnogi’r Blaid yn yr etholaeth.

Julie Morgan o’r Blaid Lafur sydd wedi bod yn cynrychioli’r etholaeth yn y Senedd ers 2011.

Fflur Elin

Mae Plaid Cymru bellach wedi cyhoeddi mai Fflur Elin yw eu hymgeisydd newydd ar gyfer etholiadau’r Senedd ar Fai 6.

Hi oedd ymgeisydd y Blaid ym Mhontypridd yn 2017 a 2019, gan orffen yn drydydd ar y ddau achlysur, a bydd hi hefyd yn drydydd ar restr ranbarthol y Blaid ar gyfer Canol De Cymru.

Mae hi’n gyn-Lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.

A thra bod rhai o aelodau’r Blaid yn dweud nad ydyn nhw’n fodlon cefnogi ei hymgyrch, mae Ashley Drake yn dweud mai ffrae “dros bolisïau ac nid dros bersonoliaethau” sydd ar waith, ac y bydd Fflur Elin yn ymgeisydd “penigamp”.

“Does dim dwywaith am hynny,” meddai Ashley Drake wrth golwg360.

“Mae’n dalentog, mae’n ddeallus, mae’n articulate ac, fel ymgeisydd, mae hi’n mynd i fod yn un o sêr y Blaid yn y dyfodol, does dim dwywaith am hynny chwaith.”

Ond mae’n dweud bod y Blaid “wedi dewis ymgeisydd gwych sydd yn gorfod dilyn lein neu bolisi sy’n gwneud dim sens o gwbl”.

“Mae’n fradychiad o egwyddorion y Blaid, a dyw e ddim yn cuddio’r broblem sydd yn wynebu’r Blaid,” meddai wedyn.

“Fel person, fel ymgeisydd, mae hi’n wych a does dim geiriau negyddol gyda fi tuag ati hi, achos mae hi’n haeddu geiriau’n ei chanmol hi.

“Nid problem personoliaethau yw hyn, mae hyn yn issue polisi, egwyddorion a gwerthoedd ac mae’r Blaid, neu rai pobol yn y Blaid, wedi gadael enw gwych y Blaid i lawr oherwydd penderfyniad tymor byr, di-egwyddor er mwyn helpu un ymgeisydd yn benodol ar sail hanes egwyddorion y Blaid.”

Yr ymgeisydd mae’n sôn amdani yma yw Leanne Wood, ymgeisydd Plaid Cymru yn y Rhondda, lle mae nifer o gleifion Felindre yn byw.

Roedd hi’n poeni y gallai hi golli pleidleisiau oherwydd y mater, ac roedd hynny’n ystyriaeth sylweddol ym mhenderfyniad Plaid Cymru i gefnogi Llywodraeth Cymru, gydag ymgyrch gref gan Lafur ar y gweill yn ei hetholaeth.

Mae Ashley Drake yn dweud bod angen ymchwiliad ar ôl yr etholiad i graffu ar sut y daeth y Blaid i’w penderfyniad.

“Mae’n broblem lot mwy dwfn ac ar ôl yr etholiad, bydd rhaid i gwestiynau gael eu gofyn ynglyn â sut mae’r sefyllfa yma wedi cael ei chreu ac wedi cael ei gadael i ddigwydd fel hyn oherwydd dyw e ddim yn adlewyrchiad da iawn o gwbl ar y Blaid.”

‘Isio ysbyty cancr gorau de Cymru’

“Mi oedd y Blaid yng Ngogledd Caerdydd, a’r Blaid yn gyffredinol, isio 100%, heb amheuaeth, ysbyty cancr gorau de Cymru,” meddai Ashley Drake wedyn wrth amlinellu ei weledigaeth wreiddiol pan gafodd ei ddewis i gynrychioli’r Blaid yng Ngogledd Caerdydd.

Ac yntau wedi colli ei ddau riant i ganser ac wedi cael profiad personol o wasnaethau canser Felindre, mae’n dweud mai “celwydd noeth” yw’r cyhuddiad mai “yn erbyn ysbyty cancr” oedd ei sylwadau am y cynlluniau arfaethedig.

Ac mae’n dweud bod 160 o arbenigwyr meddygol yn cefnogi polisi gwreiddiol Plaid Cymru fod angen i unrhyw ganolfan ganser fod ar safle ysbyty gyda gwasanaethau eraill gerllaw – rhywbeth na fyddai ar gael o ddatblygu’r safle presennol fel sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

“Nid gwyddonydd ydw i, ac nid meddyg chwaith, ond mae 160 o’r arbenigwyr cancr pwysica’ yn ne Cymru wedi sgwennu at Lywodraeth Cymru i erfyn arnyn nhw i beidio adeiladu’r ganolfan mae Felindre eisiau ei hadeiladu oherwydd mae hi ‘allan o ddyddiad’.

“Y rheswm fi’n dweud hwnna yw, mae pob canolfan gancr newydd sy’n cael ei hadeiladu ym Mhrydain ac ar draws Ewrop y dyddiau yma, yn enwedig y rhai sy’n cael eu gweld fel rhai world-leading, cutting-edge neu best practice – y canolfannau gorau yn Ewrop ar hyn o bryd – beth maen nhw’n gwneud yw maen nhw’n adeiladu nhw ar yr un campws ag ysbyty aciwt mawr, sef Singleton neu yr Heath neu’r Royal Glamorgan, sef ysbytai mawr lle mae gyda nhw arbenigwyr y galon neu strôc neu’r ysgyfaint neu bethau eraill ynglŷn â’r corff.

“Oherwydd, pan mae pobol yn cael triniaeth gancr, pan maen nhw’n sâl iawn, mae complications yn gallu digwydd ac maen nhw angen bod yn agos iawn at yr arbenigwyr ar gyfer y maes maen nhw ei angen.

“Y broblem o ran canolfannau o’r math mae Felindre eisiau ei hadeiladu yw ei fod e’n stand-alone. Mae’n sefyll ar ei ben ei hun, sawl milltir i ffwrdd o unrhyw ysbyty so, os mae unrhyw un yn y ganolfan yna’n cael trawiad ar y galon neu strôc neu unrhyw beth difrifol yn datblygu o ran eu cyflwr, does yna ddim arbenigwyr yn y ganolfan yna i’w helpu nhw so mae’n rhaid iddyn nhw gael ambiwlans i’r Heath neu i’r Royal Glamorgan neu i rywle arall.

“Felly dyna pam, wrth i’r arbenigwyr ddeud bod y model yn anghywir, beth maen nhw’n golygu yw bod angen cael yr adeilad ar yr un campws, drws nesa’ neu wedi’i gysylltu gyda choridors, a does dim yr un cyfleusterau ag sydd gyda’r ysbyty mawr.

“Felly, nid jyst mater o’r ymgyrch yw hyn, mae pobol de Cymru angen y driniaeth a’r gofal cancr gorau sydd ar gael iddyn nhw.

“A’r ganolfan sydd wedi cael ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru bythefnos yn ôl ac wedi’i chefnogi gan Blaid Cymru, dyw hi ddim yr un orau posib ar gyfer pobol de Cymru.

“Ma’ fe’n eilradd.”

Polisïau a maniffesto’r Blaid

Yn sgil y ffrae, mae Ashley Drake wedi gadael Plaid Cymru ar ôl bod yn aelod ers 37 o flynyddoedd.

Mae’n dweud y byddai wedi bod yn “falch iawn” o gynrychioli’r Blaid a’u maniffesto cyn y tro pedol ar y gwasanaethau canser.

“Mae gan y Blaid bolisïau gwych tuag at yr amgylchedd ac ro’n i’n falch iawn o sefyll ar y maniffesto amgylcheddol oedd gyda nhw,” meddai.

“Dim ond dwy flynedd yn ôl, cafodd y Blaid ei barnu fel plaid fwyaf gwyrdd Prydain Fawr, yn fwy gwyrdd na’r Blaid Werdd.

“Ond mae newid y polisi hwn yn herio’r statws yna hefyd.”

Dadl amgylcheddol

Y tu hwnt i’r ddadl am wasanaethau iechyd, mae’r ffrae yn ddeublyg yn sgil y pryderon amgylcheddol, gyda chryn drafod am Ddolydd y Gogledd yn Yr Eglwys Newydd.

“Y dolydd yw’r dolydd gwyrdd gorau yng Ngogledd Caerdydd, so mae angen cadw ein llefydd gwyrdd ni,” meddai.

“Ond i bobol sydd ddim yn deall neu sydd ddim eisiau ystyried yr ochr amgylcheddol a dim ond yn meddwl am drin pobol, achub bywydau pobol a chael y gwasanaeth gorau am gancr yn ne-ddwyrain Cymru, nid dyna mae’r ganolfan newydd yn mynd i fod.

“Roedden ni, ymgyrch fi a’m cyd-aelodau o’r Blaid yng Ngogledd Caerdydd, roedden ni’n rhedeg ar gyfer y ganolfan gancr orau bosib i bobol de Cymru.

“Felly byddai dewis y ganolfan orau bosib, y model gorau posib ar gyfer pobol de Cymru, yn achub mwy o fywydau.

“Y default yw adeiladu ar y dolydd, felly mae’r ddau beth ynghlwm wrth ei gilydd a dyna yw’r un peth sydd heb ddod trwyddo digon yn y drafodaeth.

“Mae rhai pobol sydd wedi bod yn creu trafferth i’r Blaid ac i fi’n bersonol yn hoffi creu’r syniad ym mhennau pobol bo fi yn erbyn y ganolfan gancr ac mae hwnna’n gelwydd noeth.

“Be ’dan ni angen yw be ’dan ni wedi ymgyrchu drosto – canolfan gancr lawer, llawer gwell na’r un eilradd sydd wedi cael ei gynnig i bobol de Cymru.

“So, ar gyfer achub bywydau pobol ac i achub a gofalu am yr amgylchedd, mae’n rhaid stopio beth sydd yn digwydd.

“A dyna beth yw’r broblem i ni yn y Blaid a dyna beth mae’r Blaid yn ganolog wedi tanseilio.”

Penbleth i Bleidwyr Gogledd Caerdydd

Ac yntau bellach wedi camu o’r neilltu, sut ddylai ei gefnogwyr e o fewn Plaid Cymru bleidleisio ar Fai 6?

“Nid mater i fi yw dweud wrth bobol sut i bleidleisio, mae e lan i bobol i bleidleisio pa bynnag ffordd maen nhw’n dymuno,” meddai, gan fynnu nad yw e ar unrhyw gyfri’n annog pobol i bleidleisio dros y Ceidwadwyr, sy’n gyhuddiad mae e wedi’i wynebu yn sgil y ffrae.

“Ond un peth sydd yn bendant, os ’dach chi’n pleidleisio i’r Blaid Lafur neu i Blaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd, dych chi’n pleidleisio am ganolfan gancr eilradd i dde Cymru ac yn dinistrio’r amgylchedd. End of.”

“Mae’n drysu fi ac yn gwneud fi’n drist iawn dweud hynny, ond mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru nawr yn yr un cwch ac mae eu polisi nhw yn annerbyniol, felly mae’n rhaid i bobol edrych ar beth sydd ar gael a gweddill yr ymgeiswyr sydd yn sefyll a gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â beth yw’r ffordd orau i sicrhau ailfeddwl hyn.

“Felly mae gyda phobol Gogledd Caerdydd, yn arbennig gorllewin y sedd – sef Yr Eglwys Newydd, Tongwynlais, Rhiwbeina, Ystum Tâf – benderfyniad anodd iawn i’w wneud.”

Pwy yw’r ymgeiswyr?

Debra Cooper – y Blaid Werdd

Fflur Elin – Plaid Cymru

Lawrence Gwynn – Diddymu’r Cynulliad

Akil Kata – Propel

Virginia Kemp – ‘Freedom Alliance, No Lockdowns, No Curfews’

Julie Morgan – Llafur

Haydn Rushworth – Diwygio UK

Rhys Taylor – Democratiaid Rhyddfrydol

Joel Williams – Ceidwadwyr Cymreig

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru ymateb.

“Fydd na ddim ymgyrch gan Blaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd,” medd cyn-ymgeisydd

Iolo Jones

Ashley Drake yn dweud na fydd y gangen yn cefnogi pwy bynnag ddaw yn ei le

Ymgeisydd etholiadau’r Senedd yn ymddiswyddo oherwydd ffrae ynglŷn â sefydlu canolfan trin canser

Plaid Cymru yn dweud eu bod yn cefnogi’r ganolfan ac y byddant “yn parhau i ofyn y cwestiynau sy’n mynnu atebion”