Mae’r heddlu yn y Weriniaeth Tsiec wedi cyhoeddi apêl a lluniau o ddau o bobol a gafodd eu cyhuddo mewn perthynas ag ymosodiad Novichok Caersallog ac sy’n cael eu hamau o fod â rhan mewn ffrwydrad arall.

Mae lle i gredu bod Alexander Petrov, 41, a Ruslan Boshirov, 43, wedi ymweld â’r Weriniaeth Tsiec yn 2014, gan ddefnyddio pasbort ffug.

Cafodd y ddau eu cyhuddo o ymosodiad Caersallog yn eu habsenoldeb yn 2018, ar ôl i Sergei Skripal a’i ferch Yulia gael eu gwenwyno.

Mae’r heddlu yn y Weriniaeth Tsiec yn dweud bod y ddau berson hefyd yn defnyddio’r enwau Nicolai Popa ym Moldofa a Ruslan Tabarov yn Tajikistan.

Fe ddaw wrth i’r Weriniaeth Tsiec anfon 18 o ddiplomyddion Rwsiaidd sydd wedi’u hamau o fod â rhan mewn ffrwydrad mawr oddi yno.

Dywed y prif weinidog Andrej Babis fod yna “dystiolaeth ddigamsyniol” o’u rhan yn y ffrwydrad a laddodd “ddau dad diniwed”.