Fe fydd pobol yn cael mwynhau gig yn Lerpwl fis nesaf heb orfod cadw pellter na gwisgo gorchudd wyneb.

Mae’r gig ym Mharc Sefton ar Fai 2 yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal fel rhan o arbrawf Llywodraeth Prydain i alluogi pobol i ddechrau dychwelyd i ddigwyddiadau byw ar ôl y pandemig Covid-19.

Bydd rhaid i bawb yno brofi eu bod nhw wedi cael prawf coronafeirws negyddol cyn cael mynediad i’r gig, ac fe fydd modd gwneud hynny mewn canolfan yn agos i leoliad y gig, gyda’r canlyniadau ar gael ar ôl hanner awr.

Bydd rhaid iddyn nhw roi manylion cysylltiadau hefyd fel rhan o’r cynllun profi ac olrhain.

Bydd 5,000 yn cael bod yn y lleoliad sydd fel arfer yn gallu croesawu 7,500 o bobol.

Bydd gofyn iddyn nhw gael prawf ar ôl y digwyddiad hefyd, wrth i weinidogion y llywodraeth geisio asesu pa mor ddiogel fyddai cynnal digwyddiadau awyr agored heb y cyfyngiadau.

‘Ymdrech ddewr’

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Festival Republic ar y cyd â Culture Liverpool.

“Dylem oll fod yn falch ein bod ni’n rhan o’r ymdrech ddewr hon sy’n ceisio cael y sector hanfodol yn ôl ar ei draed ac yn wydn unwaith eto,” meddai Claire McColgan, cyfarwyddwr Culture Liverpool.

Ac yn ôl Greg Parmley, prif weithredwr Live, corff diwydiant cerddoriaeth fyw y Deyrnas Unedig, “mae ychwanegu digwyddiad cerddorol awyr agored at raglen beilot ERP yn ddatblygiad positif dros ben ac yn dod â thymor gwyliau’r haf un cam yn nes”.