Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi condemnio sylwadau hiliol a gafodd eu gwneud yn erbyn eu Hasiant er Newid.

Cafodd Andrew Ogun, sy’n gerddor, dylunydd, ac ymgyrchydd 23 oed o Gasnewydd, ei benodi fel Asiant er Newid yr wythnos ddiwethaf.

Wedi i’r penodiad gael ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd sylwadau hiliol eu gyrru at Andrew Ogun ar-lein.

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ei ffieiddio gan y sylwadau hiliol a dderbyniwyd ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos,” meddai Cyngor Celfyddydau Cymru ar Twitter.

“Mae hiliaeth a phob math o ymddygiad gwahaniaethol yn gwbl annerbyniol ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei gondemnio yn llwyr.

“Ni fyddwn yn goddef yr ymddygiad afiach yma.”

“Trawsnewid cydraddoldeb ac amrywiaeth”

Yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru, pwrpas penodi Asiant er Newid yw trawsnewid cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y Cyngor.

Mae penodiad Andrew Ogun yn cyflawni ymrwymiad y Cyngor i gymryd camau penodol i weddnewid eu gwaith a’u grantiau er mwyn eu gwneud yn decach a mwy cyfartal, meddai’r mudiad.

Mae’n fwriad i’r Asiant weithio gyda Chyngor y Celfyddydau gan arwain ar broses o newid diwylliannol yn y Cyngor, ac yn y sector diwylliannol.

“Rydym ni wedi gwneud ymrwymiad clir i newid. Mae pawb yn gwybod am effaith y coronafeirws ar gymunedau amrywiol a phobl anabl. Wrth inni ymryddhau o’r cyfyngiadau, mae’n bwysig y gall y cymunedau sydd wedi’u hanwybyddu gymryd eu lle yn ein hadferiad diwylliannol,” meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru wrth groesawu penodiad Andrew Ogun.

“Nawr yw’r adeg inni droi ein hymrwymiad yn weithred. Bydd yr Asiant er Newid yn arwain ar hyn. Bydd Andrew yn cael cefnogaeth lawn y Cyngor”.

Galw am gyhoeddi’r mesurau sy’n cefnogi a gwarchod yr Asiant

Er hynny, mae’r Welsh Arts Anti-Ractist Union yn galw ar Gyngor Celfyddydau Cymru i gyhoeddi’r mesurau sydd ar waith er mwyn cefnogi a gwarchod yr Asiant er Newid ar unwaith.

Mae’r Welsh Arts Anti-Racist Union yn grŵp o artistiaid a gweithwyr celfyddydol du, a phobol o liw nad ydynt yn ddu, sy’n credu ei bod hi’n amser atgyweirio’r ffordd mae’r celfyddydau’n cael gweithredu yng Nghymru.

Dyweda’r Undeb ar Twitter eu bod nhw eisoes wedi galw ar Gyngor Celfyddydau Cymru i beidio â phenodi Asiant er Newid nes bod mesurau o’r fath mewn grym.

Wrth ymateb i’r undeb, dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru na fydden nhw’n oedi cyn penodi i’r rôl, ac ni wnaethant gadarnhau bryd hynny bod mesurau mewn lle.

Daeth hynny er gwaetha’r ffaith bod nifer o drafodaethau cynghorol mudiad Bywydau Du o Bwys wedi’u trefnu gan Gyngor Celfyddydau Cymru haf diwethaf, a bod pawb wedi cytuno na ddylai’r swydd fynd yn ei blaen fel swydd i un person, neu heb gymorth mewn lle, meddai’r Undeb.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru am ymateb i hynny.