Mae Bonnie Tyler wedi talu teyrnged i’r cyfansoddwr Jim Steinman, sydd wedi marw’n 73 oed.

Roedd e’n gyfrifol am gyfansoddi nifer o’i chaneuon mwyaf, gan gynnwys ‘Total Eclipse of the Heart’ a ‘Holding Out for a Hero’.

Roedd e’n 73 oed ac wedi bod yn sâl ers tro.

Roedd e hefyd yn adnabyddus fel cyfansoddwr albwm Meat Loaf, ‘Bat Out Of Hell’, un o’r albymau mwyaf erioed, a ‘Bat Out Of Hell II: Back into Hell’.

Cafodd ei dderbyn i Oriel Enwogion y Cyfansoddwyr Caneuon yn 2012.

Enillodd e wobr Albwm y Flwyddyn yn 1997 am gynhyrchu caneuon ar yr albwm ‘Falling Into You’ gan Celine Dion, oedd yn cynnwys y gân ‘It’s All Coming Back to Me Now’.

“Dw i’n torri ‘nghalon o glywed am farwolaeth fy ffrind hirdymor a mentor cerddorol Jim Steinman,” meddai Bonnie Tyler mewn datganiad.

“Fe wnaeth Jim ysgrifennu a chynhyrchu rhai o’r caneuon roc mwyaf eiconig erioed ac roedd yn fraint enfawr i fi gael derbyn rhai ohonyn nhw ganddo fe.

“Fe wnes i ddau albwm gyda Jim, er bod fy nghwmni recordiau’n meddwl ar y dechrau na fyddai e eisiau gweithio gyda fi, ond diolch byth roedden nhw’n anghywir, a gallaf ddweud heb unrhyw amheuaeth fod Jim yn athrylith go iawn.

“Roedd e hefyd yn ddoniol, caredig, cefnogol ac yn fod dynol hynod ofalgar ac mae’r byd yn lle gwell am fod wedi ei gael ei fywyd a’i waith, ac yn lle gwaeth wedi ei golli.

“Bydda i bob amser yn ddiolchgar iddo fe am y cyfle i gael gweithio gyda fe ac am fod wedi ei adnabod e hefyd. Cwsg mewn hedd, Jim, fy nghyfaill.”