Bydd Tafwyl yn digwydd ar-lein ym mis Mai, ac mae rhaglen yr ŵyl wedi cael ei chyhoeddi heddiw.

Mae’r ŵyl, sy’n dathlu ei phenblwydd yn bymtheg oed eleni, yn gyfle i adeiladu ar y profiadau a ddaeth yn sgil yr ŵyl rithiol llynedd, meddai’r trefnwyr.

Y bwriad yw parhau i gynnal ysbryd croesawgar a chynhwysol yr ŵyl, a’i ddefnyddio fel cyfle i ddenu cynulleidfaoedd newydd i brofi celfyddyd a diwylliant Cymreig.

Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio’n fyw ar AM o Gastell Caerdydd, ac yn cael ei chyflwyno gan Huw Stephens, Seren Jones, a Tara Bethan.

Bydd pymtheg band yn perfformio ar draws dau lwyfan, wedi’u curadu gan Glwb Ifor Bach.

Ymhlith yr artistiaid cerddorol fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni mae Geraint Jarman, Mared, Cowbois Rhos Botwnnog, Ani Glass, Gwilym, a Breichiau Hir.

Ynghyd â hynny bydd perfformiad gan fand o Lydaw, EMEZI, trwy bartneriaeth rhwng Tafwyl a’r ŵyl Lydaweg Gouel Broadel ar Brezhoneg.

Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw bydd cyfuniad o drafodaethau, sgyrsiau, a gweithgareddau i blant.

Ymysg y sgyrsiau, mae sgwrs gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, recordiad arbennig o ‘Beti a’i Phobol gyda Sara Yassine’, a lansiad y podlediad LDHT+ cyntaf yn y Gymraeg, ‘Esgusodwch fi?’

Bydd llwyfan newydd yn llawn sesiynau a thrafodaethau am iechyd a lles, a gweithgareddau i gynulleidfa iau megis gweithdai TikTok, a dawnsio.

Bydd modd mwynhau bwyd yr ŵyl o’ch cartref, a bydd posib archebu bwyd a diod yn syth i’ch gardd gan ddeuddeg o gwmnïau arlwyo.

“Tu hwnt i furiau’r castell”

“Y gobaith ar gyfer Tafwyl 2021 ydy adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl rithiol llynedd, parhau i gynnal ei hysbryd croesawgar a chynhwysol, a throi’r her yn gyfle i ddenu cynulleidfaoedd newydd i brofi celfyddyd a diwylliant Cymreig,” meddai Manon Rees-O’Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, trefnwyr Tafwyl.

“Bydd yn gyfle gwych i Fenter Caerdydd barhau i godi proffil y Gymraeg mewn digwyddiad byw ac arloesol, a chyflwyno’r iaith a’r diwylliant i gynulleidfa ehangach,” esbonia Manon.

“Mae Tafwyl 2021 yn gyfle nid yn unig i adeiladu ar lwyddiant ysgubol y llynedd ond yn gyfle i ddysgu ac arbrofi gyda dulliau newydd o gyflwyno gŵyl rithiol i gynulleidfa sydd yn tyfu, yn amrywiol, ond yn disgwyl safon ac arloesedd,” ychwanegodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM / PYST.

“Mae’n gyfle cyffrous i fynd â Tafwyl ymhell tu hwnt i furiau’r castell.”

“Dw i wrth fy modd i gyflwyno Tafwyl am y tro cyntaf gyda Huw a Tara eleni,” meddai’r gyflwynwraig, Seren Jones.

“Mae hi’n fraint i fod yn rhan o’r tîm, i ddarlledu o fy nghartref, Caerdydd, ac i fwynhau ein diwylliant. Ar ôl blwyddyn galed i bawb, dwi’n credu mai Tafwyl yw’r ffordd gorau o ddathlu bywyd yn ail-ddechrau!”

Digwyddiadau ‘ffrinj’

Bydd rhai o ddigwyddiadau ‘ffrinj’ yr ŵyl yn cychwyn ar Fai 8, gyda gig elusennol Mind Cymru y grŵp Eden yn digwydd ar noswyl Tafwyl (Mai 14).

Ddydd Sadwrn Mai 15 bydd holl ddigwyddiadau’r ŵyl yn cael eu ffrydio’n fyw rhwng 10am a 9pm ar sianel ddigidol AM, a bydd cyfle i weld yr uchafbwyntiau ar S4C ar Fehefin 13.

I weld y rhaglen yn llawn, ac am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Tafwyl, neu eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.