Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi lansio Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020 i ddathlu fod tîm pêl-droed dynion Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020.
Mae’r gystadleuaeth yn gwahodd plant Cymru i gyflwyno cerddi ar y thema hunaniaeth, ac yn agored i blant blwyddyn 7 ac iau sy’n byw yng Nghymru. Mi fyddan nhw’n gallu cyflwyno cerddi yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae’r panel beirniadu’n cynnwys dau bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Gruffudd Owen (Bardd Plant Cymru), Eloise Williams (Children’s Laureate Wales), a’r gantores-gyfansoddwr Kizzy Crawford.
Rhaid i gerddi gael eu cyflwyno ar ran plant gan athro, rhiant neu warchodwr, gyda’r dyddiad cau ar ddydd Iau 20 Mai 2021.
“Gall unrhyw un ysgrifennu barddoniaeth – does dim rheolau,” meddai Gruffudd Owen.
“Dw i eisiau i bob plentyn deimlo eu bod nhw’n gallu rhoi cynnig arni a chael hwyl, dyna’r peth pwysicaf.”
Bydd enillydd yn y Gymraeg a’r Saesneg yn derbyn crys pêl-droed Cymru wedi’i lofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru, copi o’u cerdd wedi’i llofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru, pecyn llyfrau, yn ogystal â gweithdy ar gyfer eu dosbarth ysgol gan Eloise Williams neu Gruffudd Owen.
Ar ben hynny bydd yr holl gerddi buddugol hefyd yn cael eu cyflwyno i chwaraewyr Cymru cyn eu gêm agoriadol yn Ewro 2020.
“Cyfle gwych”
Dywedodd Eloise Williams: “Dyma gyfle gwych i blant Cymru herio eu hunain ac arddangos eu creadigrwydd.
“Mae barddoniaeth yn ffordd arbennig o ddarganfod ein hunain a defnyddio ein lleisiau unigryw.
“Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen yr hyn sydd gan y plant i’w ddweud am hunaniaeth, ac rwy’n gwybod y bydd cyfoeth o dalent a gonestrwydd yn eu geiriau.
“Mae lleisiau a barn pobl ifanc yn arbennig, a galla i ddim aros i’w dathlu.”
Capten Cymru yn “edrych ymlaen at ddarllen y ceisiadau”
Ychwanegodd Gareth Bale, Capten tîm pêl-droed dynion Cymru: “Mae’n wych bod presenoldeb Cymru yn rowndiau terfynol Ewro 2020 nid yn unig yn ysbrydoli ac yn annog plant i fynegi eu hunain ar y cae pêl-droed, ond hefyd drwy ysgrifennu barddoniaeth.
“Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen y ceisiadau.”