Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi comisiynu cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, er mwyn dathlu penblwydd y cwmni’n 75 oed.

Mae’r gerdd, Intermezzo, yn myfyrio ar wreiddiau’r cwmni a’i weddnewidiad i fod yn gwmni opera byd-enwog.

Yn ogystal, myfyria’r gerdd ar y sefyllfa bresennol y mae’r holl sefydliadau celfyddydol yn ei hwynebu, yn methu a pherfformio ar hyn o bryd, ac yn rhoi gobaith am ‘lwyfan llachar’ yn y dyfodol.

Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r gerdd wedi’u hysgrifennu, recordio, a’u rhyddhau fel ffilmiau.

Ymhlith y lleisiau o Gymru sy’n perfformio mae Bryn Terfel, Gareth Edwards, Catrin Finch, Caryl Parry Jones, Dafydd Iwan, a’r actorion Siân Phillips, Mark Lewis Jones, a Rakie Ayola.

Mae’r cwmni yn dathlu 75 ers eu perfformiad cyntaf yng Nghaerdydd ym 1946, ac i ddathlu bydd corws a cherddorfa’r cwmni yn rhyddhau fersiwn newydd o un ganeuon y sioe.

Yn y ffilm mae’r corws yn olrhain taith y cwmni drwy fynd am dro trwy hanes ei darddiad yn Llandaf, i’w gartref presennol yng Nghanolfan y Mileniwm.

“Dathliad o etifeddiaeth Cymru fel gwlad y gân”

“Mae’n bleser gennym rannu Intermezzo ar achlysur ein pen-blwydd yn 75 oed a diolch o waelod calon i Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn am grynhoi stori WNO yn y modd mwyaf addas,” meddai Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol Opera Cenedlaethol Cymru.

“Hoffem hefyd ddiolch i bawb o’r rheiny a fu ynghlwm â’r recordiadau am eu hamser a chymorth wrth ein helpu i gynhyrchu’r ffilmiau arbennig hyn.

“Mae’r pandemig yn profi i fod yn amser anodd i bawb ac i’r celfyddydau ar y cyfan, ond mae’n rhaid i ni gofio y bu i Opera Cenedlaethol Cymru ddod i’r amlwg am y tro cyntaf yn ystod argyfwng byd-eang; yr Ail Ryfel Byd.

“Mae ysbryd a gweledigaeth Idloes Owen yn parhau drwy’r Cwmni, ac rydym yn hyderus o hyd y byddwn yn dod allan o’r argyfwng hwn yn gryfach ac yn edrych tua’r dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth.

“Mae’r gerdd a’r Easter Hymn yn ddathliad o etifeddiaeth Cymru fel gwlad y gân ac yn fyfyrdod ar bwysigrwydd cerddoriaeth a’r celfyddydau i fywydau pawb ohonom.”

Bydd y gerdd a’r gân ar gael i’w gwylio ar wefan Opera Cenedlaethol Cymru heddiw (Ebrill 15), a byddent yn cael eu rhyddhau ar y cyfryngau cymdeithasol.