Mae dyn wedi cael ei gyhuddo ar ôl ‘cario bwyell’ ger Palas Buckingham.

Cafodd gweithwyr diogelwch preifat sy’n gweithio gerllaw eu rhybuddio gan aelod o’r cyhoedd bod dyn yn cario bwyell tua 6.30yh ddydd Mawrth (Ebrill 13).

Llwyddon nhw i ddal y dyn, a gafodd ei arestio wedyn gan swyddogion arfog Heddlu’r Met.

Cafodd Vladynyslav Dryhval, 46, o Leyton, dwyrain Llundain, ei gyhuddo yn oriau mân ddydd Iau (Ebrill 15).

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon San Steffan yn ddiweddarach heddiw.

Roedd yn ymddangos bod lluniau a bostiwyd ar Twitter gan dystion ar y pryd yn dangos nifer o swyddogion yn amgylchynu’r dyn ger adeilad Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes.

Dywedodd y Met nad oedd adroddiadau am unrhyw anafiadau ac nad oedd y digwyddiad yn cael ei drin fel un sy’n gysylltiedig â brawychiaeth.