Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi cynllun tai a fyddai’n gweld 30,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn cael eu hadeiladu dros gyfnod o bum mlynedd fel rhan o’u maniffesto.

Ar ben hynny, byddan nhw’n darparu cyllid i wneud cartrefi newydd a phresennol yn wyrddach, gan ddweud y byddai’n arbed hyd at £500 y flwyddyn i aelwydydd.

Mae eu cynllun adeiladu cartrefi yn rhan o’u hymrwymiad ehangach i ddarparu datrysiad gwyrdd i argyfwng tai Cymru gan wneud cartrefi’n fwy fforddiadwy.

“Cynllun tai teg”

Dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: “I ormod o bobol yng Nghymru mae’r nod syml o gartref diogel, diogel a fforddiadwy yn freuddwyd amhosibl, byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn newid hyn.

“Mae ein cynllun ar gyfer cartrefi yn rhoi adferiad yn gyntaf. Byddwn yn creu swyddi drwy sicrhau bod ein cartrefi’n wyrdd, arbed arian i bobol ar filiau ynni a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

“Mae gennym gynllun tai teg, gwyrdd ac uchelgeisiol. Cynllun i Gymru lle mae pawb yn gallu fforddio cartref eu hunain.

“Cartref, sy’n rhad i’w wresogi, yn dda i’n hamgylchedd ac wedi helpu i greu swyddi yn ein cymunedau – boed hynny drwy adeiladu cartrefi gwyrdd newydd, neu ôl-ffitio rhai sy’n bodoli eisoes.”

Y Democratiaid Rhyddfrydol yn addo rhoi “adferiad yn gyntaf” yng Nghymru

“Adferiad economaidd, adferiad i’n hamgylchedd ac adferiad iechyd meddwl,” medd Jane Dodds