Mae David Cameron yn bwriadu ymateb yn “gadarnhaol” i gais i roi tystiolaeth i unrhyw ymchwiliadau i’r cwmni cyllid Greensill, meddai llefarydd ar ran y cyn-brif weinidog.

Yn dilyn y cyhoeddiad bod Pwyllgor y Trysorlys yn bwriadu cynnal ymchwiliad i fethiant y cwmni cyllid, dywedodd y llefarydd bod David Cameron yn “awyddus bod gwersi’n cael eu dysgu”.

Mae cysylltiadau’r Llywodraeth gyda Greensill Capital wedi dod o dan y chwyddwydr wrth i weinidogion wynebu cwestiynau am David Cameron yn lobio ar ran y cwmni.

Mae ymchwiliad ar y gweill i’r modd roedd David Cameron wedi gallu derbyn swydd fel ymgynghorydd rhan amser i’r cwmni tra roedd yn dal i fod yn Whitehall.

Mae disgwyl i’r Arglwydd Pickles, cadeirydd y Pwyllgor ar Benodiadau Busnes (Acoba) roi tystiolaeth heddiw (dydd Iau, Ebrill 15) i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PACAC) yn sgil “pryder difrifol” am y datblygiadau diweddaraf.

Daw’r gwrandawiad gyda’r Arglwydd Pickles wrth i gadeirydd PACAC William Wragg awgrymu y gallai’r pwyllgor lansio ymchwiliad ehangach i helynt Greensill.

“Gwersi i’w dysgu”

Yn y cyfamser mae ail grŵp o Aelodau Seneddol gyda Phwyllgor y Trysorlys wedi cyhoeddi eu bod yn dechrau ymchwiliad i fethiant y cwmni, sy’n bygwth miloedd o swyddi yn ffatrïoedd Liberty Steel, oedd yn ddibynnol ar gefnogaeth ariannol gan Greensill.

Daeth i’r amlwg bod David Cameron wedi lobio’r Canghellor Rishi Sunak ar ran Greensill ac wedi trefnu bod sylfaenydd y cwmni, Lex Greensill, yn cwrdd yn breifat gyda’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock.

Mae David Cameron wedi mynnu nad oedd wedi torri unrhyw reolau ond yn cydnabod bod “gwersi i’w dysgu”.

“Tra ei fod yn ymgynghorydd i’r busnes ac nid yn gyfarwyddwr bwrdd, mae’n awyddus i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu ar ôl i’r busnes gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr,” meddai’r llefarydd ar ran David Cameron.