Bydd Syr Keir Starmer yn ymweld â Chymru ddydd Iau (Ebrill 15) i hyrwyddo cynllun adfer coronafeirws Llafur Cymru cyn etholiad Senedd Cymru.
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ymuno â’r arweinydd Llafur lle byddant yn dweud sut y mae swyddi, sgiliau a chyfleoedd i bobol ifanc wrth wraidd maniffesto etholiad Llafur.
Mae’r addewidion yn cynnwys adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu a datblygu Canolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang yng Nghwm Dulais i hyrwyddo arloesedd ar y rheilffyrdd a chreu 300 o swyddi.
Dyma fydd ail ymweliad Syr Keir Starmer i Gymru ers iddo ddod yn arweinydd a’r cyntaf yn ystod ymgyrchu dros etholiad Mai 6.
“Cynllun cywir”
Cyn yr ymweliad, dywedodd Syr Keir Starmer: “Mae Mark Drakeford a Llafur Cymru wedi bod â’r cynllun economaidd cywir i gael Cymru drwy’r pandemig ac mae ganddyn nhw’r cynllun cywir i bweru’r economi gydag adferiad swyddi yn gyntaf.
“Mae’r etholiad hwn yn gyfle i roi’r arfau iddynt orffen y gwaith hwnnw.
“Mae Cymru’n wlad wych, feiddgar ac optimistaidd, ac mae gwarant Llafur Cymru o swydd neu hyfforddiant o ansawdd da i bob person ifanc yn tanlinellu’r penderfyniad i wneud Cymru’r lle gorau yn y Deyrnas Unedig – ac Ewrop – i fod yn ifanc ac i gael teulu.
“Mae Llafur Cymru hefyd yn adeiladu economi werdd. Mae Cymru eisoes yn arwain y byd ym maes ailgylchu, ac rwy’n benderfynol o weithio gyda Mark Drakeford a’i dîm i greu swyddi gwyrdd a sicrhau bod Cymru yn arwain y byd yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol.”
Galw ar Syr Keir Starmer i “ddangos rhywfaint o arweiniad”
Wrth ymateb i ymweliad Syr Keir Starmer, dywedodd Rachel Nugent-Finn, ymgeisydd Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae Llafur yn honni mai plaid yr Undeb yw hi, ond mae’n ymddangos bod eu Prif Weinidog yng Nghymru yn wahanol, gan ddatgan bod y Deyrnas Unedig ar ben ac yn agosáu at y cenedlaetholwyr Cymreig.
“Os yw Syr Keir Starmer wir yn poeni am ddyfodol Cymru a’r Deyrnas Unedig, mae angen iddo ddangos rhywfaint o arweiniad a dweud wrth Mark Drakeford y dylai ddiystyru delio â Phlaid Cymru o dan unrhyw amgylchiadau.
“Mae angen i Lafur benderfynu beth maen nhw eisiau ei weld ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ar draws Cymru; adferiad economaidd cryf mewn Undeb cryf, neu ddawns beryglus gyda chenedlaetholdeb a fydd yn arwain at anhrefn economaidd a chyfansoddiadol.”