Mae cyn-ŵr cyflwynydd tywydd ITV wedi cael ei garcharu ar ôl iddo ei phoenydio a’i stelcian am naw mlynedd yn ystod eu priodas.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddoe (Ebrill 14) bod Jonathan Wignall, 54, yn “fwli” gydag “ego bregus” oedd wedi cyhuddo Ruth Dodsworth, 45, o gael perthynas gyda rhywun arall yn ystod eu priodas.

Roedd wedi ceisio ei rheoli drwy beidio caniatáu iddi deithio i leoliadau ar gyfer ffilmio oni bai ei fod e’n bresennol, yn monitro ei ffon, ac wedi rhoi dyfais ar ei char fel ei fod yn gwybod lle’r oedd hi’n teithio.

Clywodd y llys bod y cwpl wedi cwrdd yn 2001, flwyddyn ar ôl i Ruth Dodsworth ddechrau ei swydd fel cyflwynydd tywydd, a’u bod wedi priodi yn 2002.

Busnes ‘yn methu’ 

Fe ddechreuodd ei ymddygiad o geisio ei rheoli yn 2010 pan symudodd y cwpl o Abertawe i’r Bontfaen. Roedd hi yn ennill mwy o arian na’i gŵr ar ôl i’w fusnes clwb nos, Escape yn Abertawe, ddechrau methu.

Dywedodd yr erlynydd Claire Pickthall nad oedd y newid yma yn y cartref yn hawdd iddo a’i fod wedi dechrau yfed mwy o alcohol a cheisio ei rheoli.

Ym mis Hydref 2016 roedd aelodau o’r teulu wedi gweld Jonathan Wignall yn gwthio ei wraig gan achosi iddi dorri asen, ac ar achlysur arall roedd wedi ei gwthio a’i dal wrth ei gwddf.

‘Ffonio 155 gwaith’

Pan benderfynodd Ruth Dodsworth nad oedd am ddychwelyd adref ar ôl shifft gwaith ar Hydref 17 2019, roedd Jonathan Wignall wedi ei ffonio 155 gwaith ac wedi bygwth lladd ei hun er mwyn ceisio ei gorfodi i ddychwelyd.

Cafodd ei arestio’r bore canlynol ar amheuaeth o aflonyddu. Cafodd Jonathan Wignall ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod na fyddai’n ceisio cysylltu â Ruth Dodsworth. Ond ym mis Rhagfyr 2019 daeth yr heddlu o hyd i ddyfais ar ei char oedd wedi ei gysylltu i ap ar ei ffon a’i liniadur.

Roedd Jonathan Wignall wedi pledio’n euog i un cyhuddiad o ymddygiad sy’n rheoli a gorfodi a stelcian cyn iddo sefyll ei brawf fis diwethaf.

Dywedodd Ruth Dodsworth drwy gyswllt fideo bod ganddi “ddyledion sylweddol” ar ôl darganfod bod Jonathan Wignall wedi benthyg arian yn ei henw.

Cafodd Jonathan Wignall ei garcharu am dair blynedd a bydd yn gorfod treulio hanner ei ddedfryd dan glo cyn cael ei ryddhau ar drwydded. Mae hefyd wedi cael gorchymyn i beidio cysylltu â Ruth Dodsworth.