Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno eu gweledigaeth ar gyfer sicrhau newid i ofal cymdeithasol, drwy weithio tuag at gynnig gofal sy’n “rhad ac am ddim yn ôl yr angen”.

Dywedodd Adam Price heddiw (Ebrill 15) mai un o weithredoedd cyntaf llywodraeth Plaid Cymru fyddai sefydlu Comisiwn i archwilio i ffyrdd o gael arian ychwanegol ar gyfer y gwaith o greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Iechyd ddi-dor.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru bod y pandemig wedi “taflu goleuni” ar gyfraniad amhrisiadwy gweithwyr gofal, gan ailadrodd addewid ei blaid i dalu isafswm cyflog o £10 yr awr i bob gweithiwr gofal.

‘Covid-19 wedi taflu goleuni’

“I rai sydd â’u hanwyliaid mewn gwasanaeth gofal ar hyn o bryd, nid yw ymroddiad y staff yn syndod,” meddai Adam Price.

“Ond mae Covid-19 wedi taflu goleuni ar waith caled, arloesedd, a heriau darparu cymorth gofal cartref, gofal nyrsio yn y gymuned, ac ansawdd bywyd preswylwyr mewn cartrefi gofal.

“Rwyf wedi gweld gyda fy llygaid fy hun y frwydr y mae llawer o deuluoedd yn ei hwynebu. I’m mam, sy’n gofalu am fy nhad â dementia, a chymaint o rai eraill yn yr un sefyllfa, byddai gofal cymdeithasol am ddim yn wirioneddol drawsnewidiol.

“Dyna pam mai un o’m gweithredoedd cyntaf fel Prif Weinidog sy’n arwain llywodraeth Plaid Cymru fyddai sefydlu Comisiwn i archwilio ffyrdd y gallem gael arian ychwanegol i ariannu’r gwaith o greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol di-dor, am ddim yn ôl yr angen.

“Byddai’r Comisiwn yn adrodd o fewn blwyddyn ac yn ystyried yr opsiwn a ffefrir gan Blaid Cymru o ddefnyddio trethiant cyffredinol a hefyd Cronfa Gofal Cymdeithasol ar sail ardollau yn debyg i’r hyn awgrymwyd gan yr economegydd Gerald Holtham.

Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol newydd

“Byddai Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol newydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei hintegreiddio’n ddi-dor ar lefel leol, gan ddod â llywodraeth leol a byrddau iechyd at ei gilydd mewn Partneriaethau Gofal Rhanbarthol newydd.,” meddai Adam Price.

“Dylai prosesau asesu gofal ganolbwyntio ar nodi angen gofal personol, yn hytrach na’r diffiniadau mympwyol o ofal ‘iechyd’ neu ‘gymdeithasol’.

“Er mwyn i’r Gwasanaeth newydd fod yn llwyddiant mae’n rhaid iddo weithio i’r gofalwyr yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn gofal.

“Dyma pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn buddsoddi yn ystod ac ansawdd y gofal yn y gymuned drwy gynyddu nifer y nyrsys ardal a nyrsys sydd â gradd meistri cymunedol a chynyddu lleoliadau myfyrwyr nyrsio mewn cartrefi gofal ochr yn ochr â datblygu llwybrau gyrfa mewn gofal i Bobl Hŷn a gofal dementia.

“Rydym hefyd wedi cyflwyno cynlluniau i sicrhau bod cyflog gweithwyr gofal yn cyd-fynd yn raddol â chyflogau staff y GIG, gan ddechrau gyda gwneud isafswm cyflog o £10 yn orfodol i weithwyr gofal.”