Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn “lle mae’r wyddoniaeth?” ac wedi galw ar y Blaid Lafur i lacio’r cyfyngiadau ar weithgareddau megis caniatáu i’r sector lletygarwch gynnig gwasanaeth tu allan.

Yn sgil rhagor o ystadegau calonogol ynghylch iechyd cyhoeddus, mae Andrew RT Davies yn galw am lacio’r cyfyngiadau ar y sector lletygarwch tu allan er mwyn helpu i “achub swyddi a busnesau Cymreig”.

Fel y mae hi, bydd y sector yn cael dechrau ailagor yn yr awyr agored ar 26 Ebrill.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi amserlen “fanwl a gofalus” a fyddai wedi golygu bod bwytai a thafarndai yn gallu cynnig gwasanaeth tu allan erbyn hyn.

“Effaith ddinistriol” y cyfyngiadau

Cyn ymweld ag Aberhonddu, dywedodd Andrew RT Davies fod “y rhaglen frechu Brydeinig yn mynd o nerth i nerth, ac wedi cynnig ffordd allan o’r cyfnod clo”.

“Mae’n hanfodol bod yn bwyllog wrth i ni gydnabod yr effaith ddinistriol mae’r cyfyngiadau yn eu cael ar fywoliaethau yng Nghymru, ac ar lesiant meddyliol a chorfforol cymaint o bobol.

“Yn anffodus, mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig oherwydd bod y Blaid Lafur yn chwarae gyda gwleidyddiaeth, yn hytrach na dilyn y wyddoniaeth.

“Nid yw’n gwneud llawer o synnwyr, ac mae colli masnach yn golygu colli bywoliaethau yng Nghymru,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Gyda nifer yr achosion yn isel a chyfradd frechu’n uchel, mae’n rhaid i weinidogion Llafur achub swyddi a busnesau Cymreig gan fod mwy a mwy ohonynt yn mynd i’r wal bob diwrnod.

“Mae pobol yng Nghymru yn gofyn lle mae’r wyddoniaeth? Mae teuluoedd, gweithwyr, a busnesau yn haeddu atebion.

“Mae angen i Lafur stopio chwarae gyda gwleidyddiaeth, dilyn ein cynllun, neu esbonio pam y gall y sector lletygarwch ailagor ychydig o fetrau dros y ffin yn Lloegr, ond nid yng Nghymru.”