Cafodd pensiynwr a gafodd ei saethu gyda bwa croes a’i bartner eu gadael heb geiniog ar ôl rhoi tua £200,000 i dwyllwr, mae llys wedi clywed.

Clywodd y llys fod Richard Wyn Lewis, 50, wedi cymryd miloedd o bunnoedd gan Gerald Corrigan a’i bartner Marie Bailey, gan honni ei fod yn mynd tuag at ddatblygu eiddo a phrynu ceffylau, clywodd achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher (Ebrill 14).

Cafodd Gerald Corrigan, 74, oedd yn byw ar Ynys Môn, ei lofruddio yn 2019.

Dywedodd yr erlynydd Peter Roach: “Mae Richard Wyn Lewis yn dwyllwr, ac yn ystod y cyfnod a gwmpaswyd gan y cyhuddiad hwn fe wnaeth dwyllo nifer o wahanol bobol allan o wahanol symiau o arian.

“Drwyddi draw, collodd pobol eu harian ac roedd Richard Wyn Lewis yn ei gadw.”

Dywedodd Peter Roach fod Richard Wyn Lewis wedi dweud wrth y cwpl oedrannus y byddai’n eu helpu gyda datblygiad adeiladu a gwerthu eu cartref.

Clywodd y llys fod Lewis wedi dweud wrth Gerald Corrigan fod ganddo brynwr posibl, John Halsall, a swyddog cynllunio wedi ymddeol, y cyfeirir ato fel David, yn ei helpu i gael caniatâd cynllunio.

Ond, yn dilyn marwolaeth Gerald Corrigan, canfu’r heddlu bod modd olrhain nifer o rifau yr oedd wedi’u nodi ar gyfer “David” yn ôl i Richard Wyn Lewis.

Pan gafodd ei gyfweld gan yr heddlu, amcangyfrifodd Marie Bailey fod y cwpl wedi rhoi tua £200,000 mewn arian parod i Wyn Lewis rhwng 2015 a 2019.

Clywodd y llys fod Gerald Corrigan, ddeuddydd cyn ei lofruddiaeth, wedi rhoi £200 i Lewis a dweud wrtho: “Does dim mwy o arian.”

Dywedodd Peter Reach fod Richard Wyn Lewis hefyd wedi cymryd arian gan y cwpl ar gyfer ceffylau “nad oedd yn bodoli” a ffioedd stablau.

Rhagor o dwyll

Clywodd y rheithgor hefyd bod Marie Bailey, 66, wedi talu Richard Wyn Lewis i fynd â’i char i’w drwsio dim ond iddo’i werthu am £5,000, gan ddweud wrthi ei fod wedi’i ddifrodi ac angen ei sgrapio.

“Nid yn unig y gwnaeth Wyn Lewis ddwyn car Marie Bailey, ond cafodd ei dalu am wneud hynny,” ychwanegodd Peter Reach.

Yn 2018, trosglwyddodd Marie Bailey £50,000 i bartner Wyn Lewis, Siwan Maclean, ar gyfer prynu hen ysgol Llanddona yn Ynys Môn, ar ôl iddo ddweud wrthi y gallai ei werthu am elw i gwmni adeiladu, clywodd y llys.

Ond nid oedd yr adeilad ar werth.

Clywodd y rheithgor nad oedd llofruddiaeth Gerald Corrigan yn ddim i’w wneud â’r achos, ond daeth yr honiadau o dwyll i’r amlwg pan gafodd Marie Bailey ei chyfweld gan yr heddlu ar ôl y saethu.

Mae Richard Wyn Lewis, o Lanfair-yn-Neubwll, Caergybi, yn gwadu wyth cyfrif o dwyll.

Mae ei bartner Siwan Maclean, 51, o’r un cyfeiriad, yn gwadu ymrwymo i gytundeb gwyngalchu arian.

Llofrudd Gerald Corrigan yn “amddifadu ei deulu o eglurhad”

Y barnwr Mrs Ustus Jefford yn ymateb wrth ddedfrydu Terence Whall i oes o garchar