Mae adroddiad newydd wedi datgelu fod ymweliadau’r lluoedd arfog ag ysgolion Cymreig yn gweithio fel “deilen ffigys” i recriwtio milwrol.

Ac mae Cymdeithas y Cymod yn dweud bod hynny wedi’i anelu “yn bennaf, neu i raddau sylweddol, tuag at ardaloedd difreintiedig”.

Mae’r dystiolaeth, sydd wedi’i gasglu gan dri mudiad anllywodraethol, yn gwrth-ddweud honiadau cyson y lluoedd arfog nad ydynt yn recriwtio mewn ysgolion.

Bu Cymdeithas y Cymod, ForcesWatch, a’r Peace Pledge Union yn darganfod, casglu, a dadansoddi data am ymweliadau’r fyddin ag ysgolion yng Nghymru am ddwy flynedd.

Fe wnaethent ddarganfod bod y lluoedd arfog yn cael eu cyflwyno’r rheolaidd mewn ffyrdd gor-syml a chamarwainiol, yn bennaf mewn ardaloedd difreintiedig.

Wrth lansio’r adroddiad, mae’r tri mudiad yn galw ar wleidyddion o bob plaid i ymrwymo’u hunain i weithredu ar ymweliadau milwrol ag ysgolion.

Canfyddiadau

Tra bod canran cymharol fechan o bobol ifanc yn cael eu recriwtio i’r lluoedd arfog, mae llawer mwy yn cael eu “recriwtio” i fabwysiadu agweddau pro-filwrol, yn aml heb glywed lleisiau amgen, meddai’r adroddiad.

Mae’r adroddiad yn nodi bod y sefyllfa yn cael ei gwaethygu gan y ffaith bod y lluoedd arfog yn recriwtio pobol ifanc o 16 oed ymlaen, sef oedran sy’n is nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.

Daw’r tri mudiad i’r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr oedran recriwtio yn cael ei godi, yn ogystal â chymryd y camau o fewn eu gallu i gyfyngu mynediad di-reolaeth at bobol ifanc ar gyfer gweithgareddau recriwtio.

Mae’r tri mudiad yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r dystiolaeth i arwain adolygiad ffurfiol ar weithgareddau milwrol mewn ysgolion Cymreig.

Cafodd yr ymchwil ei gyflawni yn sgil amharodrwydd y lluoedd arfog i gyhoeddi ystadegau a gwybodaeth am eu gweithgareddau mewn ysgolion.

Galwa’r adroddiad am ei wneud yn ofyniad cyfreithlon i’r lluoedd arfog ddatgelu gwybodaeth o’r fath.

“Gobeithio gweld cynnydd”

“Ein hargymhellion yw’r prif bethau rydym ni am dynnu sylw atynt yn yr adroddiad, ac i ddechrau gyda’r ffaith fod argymhellion wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn 2015, ac nad oes fawr o symud wedi bod ar hynny,” meddai Jane Harries, Ysgrifennyddes Cymdeithas y Cymod wrth golwg360.

“Rydym ni’n gobeithio gweld rhyw fath o gynnydd ar hynny fel canlyniad i’r adroddiad yma.

“Rydym ni hefyd am dynnu sylw at y ffaith bod gweithgareddau’r lluoedd arfog mewn ysgolion yn gallu bod yn gamarweiniol, a bod angen sicrhau bod gwahanol safbwyntiau’n cael eu cynrychioli mewn ysgolion.

“Hefyd, mae yna dystiolaeth bod ymweliadau wedi’u hanelu yn bennaf, neu i raddau sylweddol, tuag at ardaloedd difreintiedig,” ychwanegodd Jane Harries, a wnaeth arwain yr adroddiad.

“Rydym ni’n tynnu sylw at y ffaith bod prosiectau addysg heddwch yn digwydd yng Nghymru, a byddem ni’n hoffi i’r llywodraeth gefnogi’r rhain.

“Dydyn nhw ddim yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd, mewn gwirionedd, yn bendant ddim gydag unrhyw arian.

“Byddem ni’n hoffi gweld mwy o gydbwysedd ynglŷn â hynny.

“Felly, rydym ni’n codi consyrn ynghylch ymweliadau’r lluoedd arfog ag ysgolion, ac rydym ni eisiau ymateb ynglŷn a hynny.”

Cyfle i wneud “gosodiad am statws Cymru fel gwlad sy’n caru heddwch”

“Mae yna gyfle unigryw i Lywodraeth nesaf Cymru wneud gosodiad cadarn ynglŷn â statws Cymru fel gwlad sy’n caru heddwch, a gwlad nad yw’n barod i’w plant gael eu targedu ar gyfer recriwtio milwrol heb gwestiynu hynny,” meddai Rhun Dafydd, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod.

“Nid yw disgyblion yn clywed lleisiau yn aml sy’n feirniadol o’r lluoedd arfog pan maen nhw’n cael eu gwahodd mewn i ysgolion. Yn dilyn COVID, dylwn fod yn codi ein huchelgais drwy gynnig sgiliau i bobl ifanc gall gynorthwyo adferiad gwyrdd i Gymru, yn hytrach na’u gwthio nhw tuag at yrfaoedd peryglus a fydd yn niweidio eu hiechyd meddwl,” ychwanega Symon Hill o’r Peace Pledge Union.

“Cynghorwyd Llywodraeth Cymru yn 2015 i sicrhau bod ystod eang o gyflogwyr yn ymweld ag ysgolion er mwyn rhoi gwybodaeth i ddisgyblion am gyfleoedd gyrfaol. Maen nhw wedi anwybyddu’r argymhelliad hwn, ac o ganlyniad mae’r lluoedd arfog wedi cael rhwydd hynt i barhau a’u gweithgareddau recriwtio mewn ysgolion, sy’n gwrth-ddweud agenda hawliau plant Cymru,” meddai Emma Sangster o ForcesWatch.

Gwadu recriwtio

“Nid yw’r Fyddin yn recriwtio mewn ysgolion, ac rydyn ni ond yn ymweld pan fyddwn ni’n cael gwahoddiad fel rhan o raglenni allgymorth.

“Mae rhan o’r rhaglen yn cynnwys rhoi cyngor ar yrfaoedd posib gyda’r Fyddin yn y dyfodol.”