Byddai’r Torïaid yn gwneud gwerth £200m o doriadau o leia’ pe bydden nhw’n dod i rym, yn ôl Llafur Cymru.

Fore heddiw lansiwyd dogfen ‘The Secret Tory Manifesto’ gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd ac Aelod Llafur o’r Senedd.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud na fyddan nhw’n buddsoddi mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli, ac mae dogfen Llafur yn rhoi cynnig ar ddyfalu goblygiadau hynny.

Mae’r ‘maniffesto cudd’ yn dyfalu y byddai hynny’n gyfystyr â thoriad £214m, ac y byddai’n cael effaith ar ryw hanner dwsin o wasanaethau.

Mae hefyd yn darogan £17.6m o doriadau ar ben hyn oll.

“Taflu goleuni”

Mae Vaughan Gething yn dweud bod y Torïaid yn peri “bygythiad go iawn i swyddi yng Nghymru”, a bod y ‘maniffesto cudd’ yn dangos hynny.

“Rydym ni gyd yn gwybod na fydd y Torïaid yng Nghymru yn sefyll fyny i’w bosys yn Llundain,” meddai’r AoS Llafur.

“Dydyn nhw byth yn blaenoriaethu diddordebau economaidd Cymru, a byddan nhw byth yn siarad allan pan fydd polisïau Torïaid yn cael effaith ar swyddi yng Nghymru.

“Dyna pam bod gennym gyfrifoldeb i daflu goleuni tros oblygiadau Llywodraeth Torïaidd i Gymru ar ein economi ac ar swyddi yng Nghymru.”

Torïaid am dorri? Sut?

Yn ôl y maniffesto mi fyddai’r Torïaid yn torri’r canlynol:

  • Buddsoddiad rheilffyrdd (nid yw ‘isadeiledd rheilffyrdd’ wedi ei ddatganoli): fe naeth Llywodraeth Llafur Cymru fuddsoddi £70m yn ddiweddar er mwyn ariannu pedwar trên bob awr i Lyn Ebwy
  • Buddsoddiad mewn band eang (nid yw ‘telegyfathrebu’ wedi ei ddatganoli): £26m yw cyllid Llywodraeth Llafur Cymru yn 2021-22 ar gyfer gwaith isadeiledd yn y maes yma
  • Cronfa Cymorth Dewisol (nid yw ‘budd-daliadau’ wedi’u datganoli): Llynedd wnaeth Llywodraeth Llafur Cymru gyfrannu £11m at gyllid y Gronfa Cymorth Dewisol (taliadau brys i deuluoedd mewn angen)
  • Swyddogion Cymorth Cymunedol (nid yw ‘cyfiawnder’ wedi’i ddatganoli): Bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn buddsoddi £22m mewn 100 o swyddogion ychwanegol yn nhymor nesa’r Senedd
  • Cefnogaeth i gyn-filwyr (nid yw ‘amddiffyn’ wedi ei ddatganoli): Mae Llywodraeth Llafur Cymru yn gwario dros £1m bob blwyddyn ar gymorth i gyn-filwyr
  • Cymorth ychwanegol i fusnesau (nid yw ‘polisi masnach’ wedi’i ddatganoli): Byddai hyn yn gyfystyr â thoriad £10m
  • Cymorth i bobol ifanc (wrth i gynllun Erasmus ddod i ben): Bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn ariannu rhaglen newydd £65m i fyfyrwyr
  • Cyllid Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (nid yw ‘trosedd’ wedi’i ddatganoli): Mae hyn yn gyfystyr â £8.9m