Mae Cyngor Gwynedd, mewn partneriaeth gyda Chyngor Conwy, wedi cyflwyno cynnig “cyffrous” ac “arloesol” er mwyn cyflwyno gwasanaethau bws TrawsCymru trydanol.

Byddai’r cynllun newydd yn cysylltu Caernarfon, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog, a Blaenau Ffestiniog, Llanrwst, a Llandudno, gyda bws trydan lleol ar gyfer ardal Blaenau Ffestiniog.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae’r prosiect yn adeiladu ar argymhellion Strategaeth Cerbydau Allyriadau Isel TrawsCymru, ac yn cyd-fynd â thargedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

Mae’r bartneriaeth wedi cyflwyno cais cynllunio i greu safle newydd i gadw’r bysus trydanol yn Nhanygrisiau, safle sy’n faes parcio ar hyn o bryd.

“Arloesol”

“Mae Cyngor Gwynedd mewn partneriaeth â Chyngor Conwy yn falch o gyflwyno cynnig cyffrous ac arloesol i gyflwyno gwasanaethau bws TrawsCymru fydd yn gwbl drydanol ar lwybr dan gytundeb,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth golwg360.

“Mae’r cynnig hwn yn dilyn dros ddeuddeg mis o waith cynllunio manwl gan y Cyngor, mewn partneriaeth â Transport for Wales a TrawsCymru, sy’n ceisio cryfhau ansawdd ac atyniad cysylltiadau gwasanaeth bysiau allweddol.

“Mae’r prosiect hefyd yn adeiladu ar argymhellion Strategaeth Cerbydau Allyriadau Isel TrawsCymru, sy’n nodi map ffordd ar gyfer trosi fflyd TrawsCymru i dechnoleg allyriadau isel erbyn 2028 yn unol â thargedau amgylcheddol ehangach Llywodraeth Cymru.

“Mae’r bartneriaeth wedi cyflwyno cais cynllunio i greu safle newydd i gadw’r bysys trydan yn Nhanygrisiau. Y bwriad yw i gynnal gwasanaeth bws trydan rhwng Caernarfon – Blaenau Ffestiniog, a Blaenau Ffestiniog – Llandudno.

“Bydd y cynllun yn rhoi cyfle i dreialu’r defnydd o fysys trydan ar dirwedd heriol Gogledd Cymru,” meddai Cyngor Gwynedd.

“Mae’r holl waith paratoi yn addawol, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r dechnoleg newydd yma i’r ardal.”