Mi “gollwyd cyfle” ag ymchwiliad diweddar i hiliaeth yn y Deyrnas Unedig, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Ddiwedd mis Mawrth cyhoeddwyd adroddiad gan y ‘Comisiwn ar Hil a Gwahaniaethau ar Sail Ethnigrwydd’ a bu ymateb chwyrn i’w chasgliadau.
Bu’r Comisiwn yn ymchwilio i hiliaeth yn y Deyrnas Unedig, a daeth i’r casgliad bod sawl ffactor (gan gynnwys dosbarth cymdeithasol) yn dylanwadu ar drywydd ein bywydau yn fwy nag hil.
Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan Lywodraeth San Steffan, ac mi benodwyd Tony Sewell, ymgynghorwr addysg o dras ddu-Caribïaidd, i arwain y Comisiwn.
Cynhaliwyd hystings gan WalesOnline brynhawn dydd Mercher, ac yn ystod y sesiwn rhithwir mi rannodd Vaughan Gething, o’r Blaid Lafur, ei farn am yr adroddiad.
“Dw i wir yn credu y collwyd cyfle â Chomisiwn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a arweiniwyd gan Tony Sewell,” meddai’r Gweinidog Iechyd. “Mae wedi creu holltau rhwng pobol.
“Ac mae’n rhaid i mi ddweud, mae clywed pobol yn siarad rwtsh am y ffaith nad oes gennym ni broblemau hiliaeth systematig yn y wlad hon, wel, mae hynny’n fy nigalonni ac yn fy siomi.”
Ategodd bod yna “heriau mawr i ni yng Nghymru” o ran hiliaeth, a bod angen rhoi ystyriaeth gofalus i’r ffordd yr ydym yn trafod hiliaeth.
Daeth y sylwadau yn ymateb i gwestiwn ynghylch gwrthwynebu hiliaeth yng Nghymru.
Hefyd ar y panel roedd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ac Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, ac fe wnaethon nhw ill dau gynnig atebion hefyd.
Datganoli cyfiawnder
Pan ddaeth ei gyfle yntau i ateb, dywedodd Adam Price bod angen sicrhau bod plant Cymru yn dysgu am hanes BAME (pobl ddu, asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig).
Ategodd bod angen sicrhau swyddi uwch-swyddogion i bobol BAME oddi fewn i’r sector cyhoeddus, a bod angen delio â hiliaeth yn y system gyfiawnder.
“Yng Nghymru rhaid i ni gydnabod bod gennym sustem garchardai sydd ymhlith y mwyaf anghymesur, o ran hil, yn y byd,” meddai.
“Rhaid i ni fynd i’r afael â hiliaeth systemig oddi fewn ein system cyfiawnder troseddol ein hunain – mae angen adolygiad arnom sydd yn adeiladu ar waith Adolygiad Lammy ac Adolygiad Angiolini.
“Ac mae’n rhaid i ni weithredu. Allwn ni ond wneud hynna os ydym yn datganoli pŵer dros heddlua a chyfiawnder troseddol i Gymru, fel ein bod yn medru gwaredu’r hiliaeth systemig sydd yna.”
Arwain trwy esiampl
Dywedodd Andrew RT Davies yn ei ateb yntau bod angen sefyll “ochr yn ochr â phob un gymuned yng Nghymru” a bod angen i wleidyddion arwain trwy esiampl.
“Rhaid i ni wneud yn siŵr bod hiliaeth ddim yn cael ei oddef yn unrhyw le,” meddai. “Trwy’r system addysg, mi allwn addysgu.
“A lle rydym yn dod ar draws hiliaeth rhaid i ni ei waredu cyn gynted ag sy’n bosib.
“Rydym yn defnyddio pobol sy’n fodelau rôl i ddangos mai cymdeithasau sy’n derbyn pawb yw’r cymdeithasau gorau yn y byd.”