‘Ar hyn o bryd dylai bod ffocws gwleidyddiaeth ar adferiad’ – dyna mae Arweinydd y Blaid Lafur wedi dweud yn ystod ymweliad â Chymru heddiw ddydd Iau (Ebrill 15).

Bu Keir Starmer yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf cyn etholiad y Senedd, gan ymuno â’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, mewn prosiect tai cynaliadwy ym Mhenrhyn Gŵyr.

Holwyd Starmer am ei deimladau am y ffaith bod sawl ymgeisydd Llafur yn etholiad Senedd eleni yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Yn ymateb i hynny, dywedodd ei fod am “am weld Cymru gref o fewn Teyrnas Unedig deg” ac y dylid ffocysu ar adfer yn sgil Covid.

“Ar hyn o bryd dylai ffocws gwleidyddiaeth, heb os, fod ar adferiad,” meddai.

“Mae hynna wrth graidd y pethau mae Llafur Cymru yn eu dweud wrth ymgyrchu at yr etholiad yma.

“Dw i’n gwybod y bydd gan bobol safbwyntiau gwahanol ar annibyniaeth.

“Ond dw i’n credu y bydd y rhan fwyaf o bobol yn dweud y dylai’r ffocws, wrth i ni ddod allan o’r pandemig yma, yn ddigon syml, fod ar adferiad.”

Starmer yn “fwrn”?

Dywedodd Mr Starmer nad oes ganddo unrhyw bryderon y gallai’r Ceidwadwyr Cymreig ddwyn pleidleiswyr unoliaethol Llafur drwy eu neges unoliaethol.

A gwadodd, hefyd, y gallai ef ei hun fod yn “fwrn” ar ymgyrch etholiadol Llafur yng Nghymru, er bod pôl piniwn diweddar yn awgrymu bod mwy o bobol yn hoff o Mark Drakeford nag ef.

Dywedodd bod Mark Drakeford yn cael ei “barchu’n fawr” gan y cyhoedd yng Nghymru am y ffordd y mae wedi tywys y wlad drwy’r pandemig.

Ymgeiswyr tros annibyniaeth

Mae tri ymgeisydd Llafur wedi datgan eu bod o blaid annibyniaeth i Gymru.

Ben Gwalchmai, ffigwr blaenllaw ymhlith grŵp Labour for an Indy Wales ac ymgeisydd rhanbarthol tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yw’r amlycaf.

Y ddau arall yw Dylan Lewis-Rowlands, ymgeisydd etholaeth Ceredigion, a Cian Ireland, ymgeisydd etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

Yn siarad â golwg360 fis diwethaf, dywedodd Cian Ireland bod y pandemig wedi peri iddo “ailfeddwl sut dw i’n edrych ar bethau” o ran cwestiwn annibyniaeth.

“Dw i’n credu bod y pandemig wedi really dangos y gwahaniaeth rydan ni’n medru gwneud yng Nghymru o gymharu â Lloegr,” meddai wrth golwg360.

“Ac mae hynna wedi agor llygaid lot o bobol i beth rydan ni’n medru gwneud yng Nghymru ei hun. I fi, hynna wnaeth agor fy llygaid i.

“Eglwys eang”

Wrth drafod y mater â Golwg ym mis Chwefror, dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, bod y blaid yn “eglwys eang”.

“Mae’r ddadl yn fywiog y tu fewn i’r Blaid Lafur fel mae e’ dros Gymru gyfan,” meddai. “Ac eglwys eang yw’r Blaid Lafur, fel pob plaid fawr.

“Bydd pob un ymgeisydd sy’n sefyll tros y Blaid Lafur yn cefnogi’r maniffesto y byddwn yn rhoi gerbron pobol yng Nghymru. A bydd y maniffesto yn dweud beth dw i wedi ei ddweud wrth Golwg.

“Rydym ni eisiau gweld datganoli cryf … a phwerau i ni yma yng Nghymru i wneud penderfyniadau sy’n addas i ni.

“Ond hefyd, lle mae gennym ni awydd, [rydym eisiau medru] rhannu pwerau ac adnoddau gyda gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig, ac i dynnu cryfder mas o hwnna hefyd.”

Mae arolygon barn “yn gyson” yn awgrymu bod mwyafrif aelodau’r Blaid Lafur o blaid annibyniaeth, ond mae Mark Drakeford wedi dweud na fydd yn cynnal refferendwm annibyniaeth petai’r Blaid Lafur yn clymbleidio â Phlaid Cymru ar ôl yr etholiad.