Mae Prydain a’r Undeb Ewropeaidd wrthi’n ymdrechu eto i ddatrys problemau masnachu yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r Gweinidog Brexit, yr Arglwydd Frost, yn teithio i Frwsel ar gyfer trafodaethau gydag is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, wrth iddynt geisio datrys gwahaniaethau dros Brotocol Gogledd Iwerddon yng Nghytundeb Ymadael Boris Johnson.

Cyn hynny, bu i’r Arglwydd Frost ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis, gyfarfod â Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, Simon Coveney, “fel rhan o ymgysylltiad dwyochrog rheolaidd”, cadarnhaodd Downing Street.

Roedd yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, i fod i gwrdd â Mr Coveney yn y prynhawn yn dilyn y trafodaethau, meddai swyddogion.

Tensiynau newydd

Mae’r protocol yn ffactor sydd wedi’i feio am y cynnydd diweddar mewn trais mewn ardaloedd unoliaethol – mae pryder yn y cymunedau hynny fod y trefniant wedi gwanhau eu statws yn y Deyrnas Unedig.

O dan delerau’r protocol, gall nwyddau sy’n symud o weddill y Deyrnas Unedig i Ogledd Iwerddon fod yn destun gwiriadau.

Bwriad y mesurau yw diogelu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd a chynnal ffin agored rhwng y Gogledd a’r Weriniaeth, yn unol â phroses heddwch Dydd Gwener y Groglith.

Fodd bynnag, mae beirniaid wedi rhybuddio bod y ffordd y cafodd ei weithredu wedi arwain at densiynau newydd yn y rhanbarth, a llesteirio llif nwyddau yn y Deyrnas Unedig.

Y berthynas

Mae’r berthynas rhwng Llundain a Brwsel dan straen ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd gyhoeddi fis diwethaf ei bod yn cymryd camau cyfreithiol mewn ymateb i benderfyniad unochrog gan y Deyrnas Unedig i ymestyn cyfres o “gyfnodau gras” sydd â’r nod o hwyluso cyflwyniad y rheolaethau newydd.

Cyn y cyfarfod nos Iau rhwng yr Arglwydd Frost a Mr Sefcovic, dywedodd llefarydd ar ran yr Undeb Ewropeaidd y byddent yn “pwyso a mesur gwaith technegol parhaus” ar y protocol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig bod “gwahaniaethau sylweddol” o hyd, a bod angen eu datrys i ailadeiladu hyder yn y cytundeb ymysg cymunedau yng Ngogledd Iwerddon.

“Mae’r cyfarfod hwn yn rhan o’n hymgysylltiad parhaus â’r Undeb Ewropeaidd i weithio i ddatrys y materion sy’n weddill gyda’r protocol, er mwyn adfer hyder ar lawr gwlad, adlewyrchu anghenion cymunedau, a pharchu holl ddimensiynau Cytundeb Gwener y Groglith Belfast,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r trafodaethau hyd yma wedi bod yn adeiladol ond mae gwahaniaethau sylweddol o hyd sydd angen eu datrys.

“Mae’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn parhau i ymgysylltu â busnes, cymdeithas sifil, a rhanddeiliaid eraill yng Ngogledd Iwerddon i ddeall y materion y maent yn eu hwynebu.”

Cadarnhau’r cytundeb

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, a gytunwyd rhwng Mr Johnson a Brwsel ar Noswyl Nadolig, wedi bod ar waith dros dro ers dechrau’r flwyddyn.

Cytunodd y Deyrnas Unedig i ymestyn y trefniant dros dro tan ddiwedd mis Ebrill.

Heddiw (dydd Iau 15 Ebrill), pleidleisiodd ASEau ar ddau bwyllgor allweddol – y pwyllgorau masnach a materion tramor – i argymell bod Senedd Ewrop yn rhoi ei chydsyniad i fargen fasnach yr UE-DU.

Croesawodd is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, y bleidlais.

“Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu o fudd i’n dinasyddion a’n busnesau ac yn sefydlu maes chwarae gwastad a llywodraethiant effeithiol i’w orfodi,” meddai.

Dyma’r cam olaf ond un ym mhroses gadarnhau Senedd Ewrop ar gyfer y Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Fodd bynnag, nid oes dyddiad wedi’i bennu ar gyfer pleidlais derfynol i gadarnhau’r fargen mewn cyfarfod llawn o Senedd Ewrop – cafodd hynny ei ohirio’n flaenorol oherwydd pryderon ynghylch gweithrediad y Cytundeb Ymadael cynharach.

Dywedodd Downing Street ei fod wedi cytuno i’r estyniad tan fis Ebrill ac yn disgwyl i’r UE “gwblhau eu prosesau i’r amserlen”.