Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad oes tystiolaeth fod pysgod wedi marw hyd yma wedi i laeth dywallt i Afon Dulais yn Sir Gaerfyrddin.
Fe wnaeth yr afon droi’n wyn yn Llanwrda ar ôl i dancer llaeth droi drosodd ar y ffordd gerllaw brynhawn ddoe (Ebrill 14).
Cafodd yr A482 yn Llanwrda ei chau dros nos, ond bellach mae’r ffordd wedi ailagor.
Bu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu’r safle ddoe a bore heddiw, ac maen nhw wedi cadarnhau bod Afon Dulais bellach yn glir.
Er hynny, maen nhw’n pwysleisio fod llygredd llaeth yn “niweidiol iawn i afonydd a chynefinoedd”.
“Mae swyddogion wedi bod ar y safle bore heddiw ac maen nhw’n cadarnhau fod Afon Dulais bellach yn glir, ac nad oes tystiolaeth o bysgod marw hyd yma,” meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae’r tancer llaeth wedi ei adfer a’i gludo o safle’r gwrthdrawiad.
“Mae’r llaeth bellach yn llifo drwy’r dalgylch. Mae wedi mynd heibio Llangadog, ac ar hyn o bryd mae ym mhrif afon Tywi i lawr yr afon o Landeilo, ac yn achosi afliwiad yn yr ardal.
“Mae llygredd llaeth yn niweidiol iawn i afon a’i gynefinoedd, ac mae swyddogion yn parhau i asesu a monitro effaith y gollyngiad hwn.”