Mae undeb y GMB wedi condemnio diswyddiadau peirianwyr yn Nwy Prydain yn dilyn ffrae ynghylch cyflog ac amodau.
Mae adroddiadau fod bron i 500 o beirianwyr Nwy Prydain wedi colli eu swyddi ar ôl gwrthod llofnodi cytundebau newydd, ar delerau gwaeth.
Mae’r cwmni’n gofyn i’r peirianwyr weithio mwy o oriau anghymdeithasol, ac ymestyn yr wythnos waith o 37 i 40 awr.
Mae’r undeb yn honni bod y cytundebau newydd gyfwerth â thoriad cyflog o 15%.
Cefndir
Aeth mil o weithwyr Nwy Prydain ar streic ym mis Ionawr, gyda GMB yn cyhuddo’r cwmni o “ddefnyddio’r pandemig fel esgus i dorri hawliau ac amodau gweithwyr”.
Bryd hynny, roedd yr undeb hefyd yn honni eu bod wedi derbyn nifer helaeth o gwynion gan aelodau fod Nwy Prydain yn defnyddio “tactegau o fwlio” cyn, ac yn ystod, y streic pum niwrnod ym mis Ionawr.
Mae’r streicio yn parhau hyd heddiw – roedd dydd Mercher (Ebrill 14) yn nodi 43 diwrnod o weithredu diwydiannol eleni.
Centrica sy’n berchen Nwy Prydain, ac mae yn un o nifer o gwmnïau sy’n cael eu cyhuddo o fygwth diswyddo gweithwyr er mwyn eu hailgyflogi ar delerau llai ffafriol.
Caiff hyn ei alw’n fire and re-hire ac er bod y weithred yn anghyfreithlon yn Iwerddon, Sbaen, a sawl gwlad arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd, mae o fewn y gyfraith i wneud hynny yng ngwledydd Prydain.
“Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi condemnio’r defnydd o fire and rehire ac mae’r ddau wedi galw Nwy Prydain allan am hyn,” meddai Adrian Baker sy’n Drefnydd Rhanbarthol i undeb y GMB wedi’i leoli yng Nghaerdydd, wrth Golwg yn ôl ym mis Ionawr.
Dywedodd wrth y BBC yr wythnos hon fod tua 2% o’i staff wedi dewis peidio â llofnodi’r contractau newydd, er fod y cwmni wedi gwrthod rhoi rhifau manwl gywir gan y gallent barhau i newid.
Condemnio
Mae’r GMB wedi condemnio’r colli swyddi.
“Mae’r ffaith nad yw Nwy Prydain yn poeni dim am eu cwsmeriaid nag eu staff yn cael ei brofi wrth iddynt ddiswyddo peirianwyr y maen nhw eu hangen ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid,” meddai swyddog cenedlaethol y GMB, Justin Bowden.
“Er nad oes dim i atal cwmni rhag bwlio ei staff ei hun i lofnodi termau nad ydynt yn eu derbyn, a diswyddo’r rhai sy’n gwrthod cael eu bwlio, ni fydd aelodau’r GMB yn derbyn canlyniad yr ymgyrch naw mis hon o fwlio gan Nwy Prydain.”
Nwy Prydain yn gwadu
Gwadodd Centrica honiadau’r undeb, gyda llefarydd yn dweud: “Rydym yn moderneiddio’r ffordd rydym yn gweithio i er mwyn darparu’r gwasanaeth orau i’n cwsmeriaid ac i ddiogelu dyfodol ein cwmni a’n 20,000 o gydweithwyr.
“Mae’r mwyafrif helaeth o’n gweithwyr wedi cytuno i’r telerau newydd, sy’n deg ac yn gystadleuol iawn. Nid ydym yn newid cyflogau sylfaenol na phensiynau.
“Yn anffodus, mae’r GMB yn parhau i ddweud ein bod wedi torri cyflog 15% ac nid yw hyn yn wir.
“Mae ein peirianwyr gwasanaeth nwy yn parhau i fod yn rhai o’r gweithwyr sy’n cael y cyflog gorau yn y sector, ar isafswm o £40,000 y flwyddyn.”